Mis y Plentyn Milwrol

April/Ebrill | #MotMCCymru

Mae Ebrill wedi'i ddynodi fel Mis y Plentyn Milwrol, sy'n tynnu sylw at y rôl bwysig y mae plant y Lluoedd Arfog yn ei chwarae yng nghymuned y Lluoedd Arfog. Mae'n amser i gymeradwyo teuluoedd y Lluoedd Arfog a'u plant am yr aberth dyddiol maen nhw'n ei wneud a'r heriau maen nhw'n eu goresgyn.

Hoffai SSCE Cymru annog lleoliadau addysg i gynnal gweithgareddau yn ystod y mis hwn i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o'r profiadau unigryw y mae'r grŵp yma o blant a phobl ifanc yn eu cael a dod yn amgylchedd mwy cyfeillgar i'r Lluoedd Arfog.

 

Pam Porffor?

Dewiswyd porffor oherwydd ei fod yn symbol o bob cangen o'r fyddin, cyfuniad o Gwyrdd y Fyddin, Glas yr awyrlu, Glas Gwylwyr y Glannau, Coch Morol a Glas Tywyll y Llynges.

Diwrnod Porffor i Fyny

Dydd Gwener 24ain o Ebrill yw'r diwrnod i 'Borffor i fyny' ar gyfer Mis y Plentyn Milwrol! 

Sut allwch chi gymryd rhan?

  • Gwisgwch borffor
  • Creu gwaith celf ac arddangosfeydd porffor
  • Dathlu a diolch i'ch plant y Lluoedd Arfog am y rôl bwysig maent yn ei chwarae yng nghymuned y Lluoedd Arfog trwy unrhyw un o'r syniadau yn y llyfryn hwn
  • Tynnwch luniau o'ch dathliadau
  • Rhannwch lluniau gyda SSCECymru@wlga.gov.uk a @SSCECymru ar y cyfryngau cymdeithasol (X a Facebook).

Caneuon Plant y Lluoedd Arfog

I ddathlu #MotMC 2026, mewn cydweithrediad â Never Such Innocence, Mae SSCE Cymru yn gyffrous i lansio pum cân, a ysgrifennwyd gan blant y Lluoedd Arfog ledled Cymru. Mae'r caneuon hyn sydd ar gael yma, yn taflu goleuni ar eu meddyliau, eu teimladau a'u profiadau byw o fywyd y Lluoedd Arfog.

Digwyddiadau

Gweler tudalen digwyddiadau SSCE Cymru am fanylion digwyddiadau sy'n digwydd ym mis Ebrill fel rhan o Fis y Plentyn Milwrol.

UNCRC

Erthygl 8: Mae gen i'r hawl i hunaniaeth.

UNCRC

Erthygl 31: Mae gen i hawl i orffwys, ymlacio a chwarae.

Adnoddau SSCE Cymru

Adnoddau

Gweithgareddau Blaenorol Mis y Plentyn Milwrol

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.