Cynhaliodd y Tîm Gwella Addysg yng Nghyngor Bwrdeistref Sir Conwy weithdy Mis y Plentyn Milwrol ddydd Llun 20 Ebrill lle gwahoddwyd holl blant y Lluoedd Arfog ledled y Sir i ddod at ei gilydd am fore hwyliog.
Daeth y digwyddiad â disgyblion o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 10 ynghyd ar draws 6 ysgol o fewn yr awdurdod lleol. Roedd y gweithdy yn gyfle gwerthfawr i blant y Lluoedd Arfog gysylltu, cydweithio a rhannu eu profiadau mewn amgylchedd cefnogol.
Cymerodd y disgyblion ran weithredol mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyliog, gyda'r uchafbwynt yn creu podlediad cydweithredol. Cafodd llawer o hwyl gan bawb!
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.