Mae SSCE Cymru yn cynnal gweithgareddau ymchwil amrywiol i ddeall anghenion plant y Lluoedd Arfog a nodi’r gefnogaeth fwyaf llwyddiannus maent wedi ei derbyn.
Mae safbwyntiau ysgolion, rhieni/gofalwyr a phlant y Lluoedd Arfog wedi bod yn allweddol i ddatblygu Pecyn Gwaith SSCE Cymru ac adnoddau yn ogystal â chyfrannu tystiolaeth i wneud newidiadau i bolisi a systemau.
Yn 2024/2025 fe wahoddodd SSCE Cymru yr holl ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru i gymryd rhan mewn arolwg ADY.
Roedd cwestiynau’r arolwg yn cwmpasu’r meysydd canlynol:
Yn 2019, gwahoddodd SSCE Cymru bob ysgol yng Nghymru sydd â phlant y Gwasanaeth ar y gofrestr i gymryd rhan mewn arolwg. Roedd cwestiynau'r arolwg yn cwmpasu'r meysydd canlynol:
Crynodeb o'r canfyddiadau allweddol
Cyfrannodd cyfanswm o 167 o ysgolion ledled Cymru fanylion am eu profiadau o gefnogi plant y Gwasanaeth mewn addysg drwy arolwg ar-lein.
Heriau y mae plant y gwasanaeth yn eu hwynebu
Heriau y mae ysgolion yn eu hwynebu wrth gefnogi plant y Gwasanaeth
Cymorth ysgol i blant y Gwasanaeth
Yn 2019/20, cynhaliodd SSCE Cymru nifer o grwpiau trafod gydag ysgolion yng Nghymru, i glywed gan blant y Gwasanaeth am eu profiadau o addysg yng Nghymru. Cymerodd 115 o blant gwasanaeth o 14 ysgol ran yn y prosiect.
Mae'r canfyddiadau hyn yn bwydo i mewn i brosiect Llais Plant Blwyddyn y Gwasanaeth gan y Service Children's Progression Alliance (SCiP Alliance).
Crynodeb o'r canfyddiadau allweddol
Yn 2020, cynhaliodd SSCE Cymru arolwg gyda rhieni/gofalwyr plant y Gwasanaeth. Rhoddodd hyn gyfle iddynt rannu eu profiadau ynglŷn â byw yng Nghymru/symud i Gymru, yr effaith y mae eu ffordd o fyw yn ei chael ar addysg eu plant, a'r gefnogaeth y maent wedi'i dderbyn gan ysgolion.
Crynodeb o'r canfyddiadau allweddol
* Y pedwar ALl allweddol yw'r rhai sydd â chymunedau milwrol sefydledig (Ynys Môn, Sir Benfro, Powys a Bro Morgannwg).
Mae’r ymchwil hwn, a gomisiynwyd gan SSCE Cymru a’i gynnal gan Brifysgol De Cymru ac Ymchwil Arad, yn edrych ar yr heriau o adnabod, asesu a gweithredu cefnogaeth ar gyfer Plant y Lluoedd Arfog gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru. Mae hefyd yn archwilio effaith posibl y Cod ADY newydd i Gymru.
Fe lansiodd Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, yr adroddiad yn swyddogol yng nghynhadledd SSCE Cymru ym Mehefin 2018.
“…mae canran plant y Lluoedd Arfog (6.1%) sy’n cael eu cefnogi ar lefel gweithredu gan yr ysgol yn sylweddol is na chanran yr holl ddisgyblion (11.17%) ar draws ein sampl. Un eglurhad posibl dros hyn yw y gall natur grwydrol y boblogaeth hon ei gwneud yn llai tebygol i unrhyw ymagweddau dysgu gwahaniaethol cychwynnol gael eu gwerthuso ac wedyn, yn ei dro, fynd ymlaen i gefnogaeth drwy Gweithredu gan yr Ysgol.”
Mae’r adroddiad yn cynnwys y canlynol:
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.