Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddangos cefnogaeth i’r dynion a’r merched sy’n aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog: o swyddogion sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd i deuluoedd y Lluoedd, cyn-filwyr a chadetiaid.
Hoffai SSCE Cymru annog lleoliadau addysg i gynnal gweithgareddau i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o’r Lluoedd Arfog ac o brofiadau unigryw plant y Lluoedd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

Bob blwyddyn, mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal a’i ddathlu mewn rhanbarth gwahanol ar hyd a lled y wlad. Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn cofnodi ac yn dathlu cymuned y Lluoedd Arfog a’r bartneriaeth gydag awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, y tri gwasanaeth a phartneriaid eraill.
Eleni, cynhelir Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn Sir Gâr ar 26 Mehefin 2026. Bydd y digwyddiad, a gynhelir ym Mharc Gwledig Pen-bre, am ddim a’r nod yw dod â’r cyhoedd ynghyd i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog.
Trefnwyd y diwrnod llawn mewn partneriaeth ag uwch arweinwyr y Fyddin, y Llynges a’r Awyrlu. Bydd yn ddiwrnod cyffrous, yn cynnwys asedau gwahanol o’r Lluoedd Arfog (sydd heb eu cadarnhau eto, ond sy’n debygol o fod yn awyrennau’n hedfan heibio, gollwng o barasiwt, cerbydau milwrol, gallu’r dyfodol, tanc plymio’r Llynges ac ati) a’r Gwasanaethau Golau Glas, adloniant i’r teulu, cerddoriaeth fyw, arddangosfeydd, bwyd a diod a llawer o dimau ymgysylltu o’r catrodau gwahanol o wasanaethau'r fyddin i gyd.
Cefnogwch ac anogwch blant y Lluoedd Arfog a’u cyfoedion i gymryd rhan yng ngweithgaredd jig-so Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog, fydd yn cael ei arddangos yn y digwyddiad yn Sir Gâr.
*Photography ©UK MOD Crown Copyright 2022
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.