Llais Plant y Lluoedd Arfog
Yn SSCE Cymru, rydyn ni wir eisiau clywed gan blant a phobl ifanc y Lluoedd Arfog. Mae eich syniadau, straeon a'ch profiadau yn ein helpu i ddeall sut yw bywyd i chi, cynllunio gweithgareddau y gallwch gymryd rhan ynddynt, a chreu adnoddau sy'n eich cefnogi chi a phlant y Lluoedd Arfog eraill. Mae eich llais yn bwysig, ac rydyn ni eisiau i ysgolion ledled Cymru wrando, dysgu a gwneud newidiadau cadarnhaol oherwydd yr hyn a rennych.
Os oes rhywbeth yr hoffech ei rannu gyda ni, cliciwch ar y botwm isod.
Jo Wolfe yw Swyddog Arweiniol Cyfranogi SSCE Cymru sy’n gyfrifol am bopeth yn ymwneud â llais plant y Lluoedd Arfog
Mae SSCE Cymru wedi ymrwymo i helpu pob ysgol gyda phlant a phobl ifanc yn y Lluoedd Arfog i gael aelod o staff penodedig y gallwch siarad ag ef a fydd yn gwrando. Gwyddom y gall rhai plant yn y Lluoedd Arfog rannu profiadau tebyg, ond mae pob taith yn wahanol. Byddwch chi i gyd yn dysgu, yn tyfu ac yn teimlo ar eich ffordd eich hun, ac rydym yn gofyn i ysgolion gydnabod hyn a meddwl yn ofalus am sut y gallant eich cefnogi.
Rydych wedi dweud wrthym y gall ysgolion eich cefnogi drwy:
• Gwybod mwy amdanoch chi a helpu i wneud symud i ysgol newydd yn haws.
• Cyflwyno chi i ‘buddy’ sy’n gallu bod yn ffrind ac helpu i ddysgu am eich ysgol newydd.
• Cael Hyfforddwr Ysgol Plant y Lluoedd Arfog (SCSC) neu aelod arall o staff y gallwch siarad â nhw.
• Sefydlu clybiau penodol lle gallwch gwrdd ag eraill sydd yn blant a phobl ifanc y Lluoedd Arfog, cymryd rhan mewn gweithgareddau a teimlo’n rhan o’r gymuned.
• Dod o hyd i ffyrdd o helpu disgyblion eraill a staff yr ysgol i ddeall sut gall bywyd fod mewn teulu y Lluoedd arfog.
• Nodi dyddiadau pwysig fel Diwrnod y Lluoedd Arfog, Cofio a Mis y Plentyn Milwrol ym mis Ebrill.
• Gwrando ar eich barn a’ch teimladau wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi.
Erthygl 12 - Mae gen i’r hawl i gael fy nghlywed a chael fy nghymryd o ddifrif.
Profiadau sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar les a phrofiadau addysgol plant yn y Lluoedd Arfog: gwneud ffrindiau oedd ateb 60% o’r ymatebwyr.
Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol.
Mae SSCE Cymru yn gweithio gyda ysgolion a phartneriaid ledled Cymru i gefnogi plant a phobl ifanc y Lluoedd Arfog. Gyda'n gilydd, rydym yn helpu staff ysgol i ddod o hyd i adnoddau defnyddiol ac difyr i sefydlu clybiau wedi’u cynllunio'n benodol i chi.
Mae'r clybiau hyn yn llefydd diogel ac ymweladwy lle gallwch gwrdd ag eraill sy'n deall bywyd yn nheulu'r Lluoedd Arfog. Maent yn ffordd wych i wneud ffrindiau, setlo mewn, rhannu profiadau ac ymlacio.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth isod am glybiau eisoes yn gweithio yng Nghymru. Efallai bod un yn eich ysgol newydd hyd yn oed!
Mae SSCE Cymru’n mwynhau cydweithio ag ysgolion a’n rhwydwaith i gefnogi plant/pobl ifanc y Lluoedd Arfog mewn addysg yng Nghymru. Drwy weithio gyda’n gilydd, rydym yn cyfeirio staff yr ysgol at gyfoeth o adnoddau er mwyn rhoi popeth sydd eu hangen iddynt i sefydlu clwb i chi wneud ffrindiau newydd a chael hwyl!
Gweler y wybodaeth isod am rai o’r clybiau sydd eisoes yma yng Nghymru. Efallai bod un yn eich ysgol newydd yn barod!
“Helo, a chroeso i Gymru! Riley ydw i, a threuliodd fy nhad 22 mlynedd yn gwasanaethu i Gorfflu Brenhinol yr Arwyddwyr. Cefais fy nghyflwyno i SSCE Cymru am y tro cyntaf ar ôl i mi ennill cystadleuaeth gohebydd ifanc, lle cefais wneud adroddiad ar fywyd plentyn y Lluoedd Arfog a’r heriau sydd ynghlwm â hynny. Fe wnaeth SSCE Cymru fy nghysylltu gyda phlant Lluoedd Arfog eraill yn fy ardal, cefais gyfweld â hwy i’m helpu gyda fy adroddiad BBC, ac fe wnaeth hyn fy helpu i ddeall rhai o brofiadau plant y Lluoedd Arfog yn eu bywydau bob dydd. Yn dilyn hyn, cefais fy enwebu gan SSCE Cymru ar gyfer gwobr llysgennad plant y Lluoedd Arfog. Rwy’n falch iawn o fod wedi cael y cyfle hwn, a hyd yn oed yn fwy balch o ennill gwobr llysgennad plant y Lluoedd Arfog, yn ogystal â gwobr Cefnogwr Plant y Lluoedd Arfog, sef y wobr uchaf! Oni bai am SSCE Cymru, ni fyddwn erioed wedi clywed am y wobr hon, heb sôn am ei hennill hi!
Mae SSCE Cymru wedi parhau i’m galluogi i ledaenu’r neges am yr heriau y mae plant y Lluoedd Arfog yn eu hwynebu. Maent wedi rhoi’r cyfle i mi fynychu’r Ŵyl Pobl Ifanc i ddysgu am Senedd Ieuenctid Cymru. Cefais sgwrsio â Chomisiynydd Plant Cymru am lawer o faterion, a thynnu ei sylw at yr heriau y mae plant y Lluoedd Arfog yn eu hwynebu. Mae’r holl gyfleoedd yr wyf wedi’u cael gan SSCE Cymru’n gwneud gwahaniaeth i blant y Lluoedd Arfog, a gobeithiaf y bydd yn eu helpu i leisio eu barn er mwyn gwella bywydau plant eraill y Lluoedd Arfog.”
Mae’n bleser gan dîm SSCE rannu bod Riley wedi cael ei ethol fel aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Preseli Sir Benfro!!!
Y prif faterion y bydd Riley’n canolbwyntio arnynt yn y Senedd yw:
– Addysg plant y Lluoedd Arfog - Cyllid addysgol cyfartal
-Rhestrau aros ADY
Os hoffech chi rannu eich profiadau gyda’n tîm a Riley neu godi unrhyw bryderon sy’n cael effaith arnoch chi fel plentyn/unigolyn ifanc y Lluoedd Arfog, cysylltwch â Swyddog Arweiniol Cyfranogi SSCE Cymru, Jo Wolfe ar joanna.wolfe@wlga.gov.uk
Unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd;
Siaradwch â Chefnogwr Plant y Lluoedd Arfog eich ysgol a gofynnwch iddynt gysylltu â Swyddog Arweiniol Cyfranogi SSCE Cymru, a fydd yn eich ychwanegu at y rhwydwaith ac yn cysylltu â chi drwy gyswllt eich ysgol i drafod gweithgareddau yr hoffech chi gymryd rhan ynddynt o bosibl.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.