Bro Morgannwg
Mae Ysgol Gynradd Saint Tathan yn falch iawn o gefnogi plant teuluoedd y Lluoedd Arfog yn eu cymuned. Mae 35 o blant Lluoedd Arfog ynghlwm â’u clwb arbennig ar hyn o bryd, sy’n darparu cefnogaeth a chysylltiad wedi’u teilwra i ddisgyblion o gefndiroedd milwrol.
Ms Katie Parked yw Cefnogwr Plant Lluoedd Arfog Ysgol Gynradd Saint Tathan ar hyn o bryd. Dechreuodd clwb yr ysgol gynnal sesiynau rheolaidd o 2022.
Cawsant Statws Ysgol sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Efydd ym mis Mehefin 2022, a Statws Arian ym mis Gorffennaf 2024, i gydnabod eu hymrwymiad parhaus i fodloni anghenion plant y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd.
Fel rhan o’u hymdrech barhaus i wella prosesau pontio ac integreiddio, maent wedi dechrau creu e-lyfrau am yr ysgol. Lluniwyd y pecynnau croeso digidol hyn i gefnogi plant y Lluoedd Arfog sy’n symud i’r ardal, gan gynnig ymdeimlad o gynefindra iddynt a hwyluso’r broses bontio.
Maent hefyd wedi cyflwyno hwdis unigryw ar gyfer pob aelod o’n clwb a staff sy’n gysylltiedig â’r Lluoedd Arfog, er mwyn helpu i hyrwyddo ymdeimlad o hunaniaeth, urddas a pherthyn o fewn cymuned yr ysgol.
Mae gwrando ar leisiau plant y Lluoedd Arfog yn ganolog i’w hymdrechion. Mae blychau awgrymiadau wedi’u gosod ar draws yr ysgol ac yn cael eu gwirio’n rheolaidd. Maent hefyd yn cynnal sesiynau llais y disgybl tymhorol, sydd wedi llywio’r blaenoriaethau ariannu cyfredol yn uniongyrchol. Un canlyniad amlwg yn y trafodaethau hyn oedd creu clwb ar ôl ysgol arbennig ar gyfer plant y Lluoedd Arfog, gan ddarparu amgylchedd cefnogol a diogel iddynt gyfathrebu â chyfoedion sy’n rhannu profiadau tebyg.
Ar 30 Ebrill 2025, cynhaliwyd Gŵyl Lluoedd Arfog ar gyfer ysgolion y clwstwr. Roedd y digwyddiad hwn yn cynnwys gweithdai gan Never Such Innocence a Forces Fitness, a chroesawyd cynrychiolydd o SSCE Cymru. Roedd yr ŵyl yn gyfle gwerthfawr i blant y Lluoedd Arfog gysylltu, mynegi eu hunain a dathlu eu profiadau unigryw.
Mae Ysgol Gynradd St Tathan yn parhau i ymrwymo i gydnabod a chefnogi anghenion teuluoedd y Lluoedd Arfog. Dyfarnwyd statws AFFS Aur iddynt ym mis Ebrill 2025, wrth iddynt barhau i ddatblygu mentrau sy'n sicrhau bod pob plentyn Lluoedd Arfog yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu cynnwys a'u gwerthfawrogi yng nghymuned yr ysgol. Llongyfarchiadau a diolch i chi gyd am eich ymdrechion.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.