Adnoddau

Gweithdai rhithwir Little Troopers

Gweithdai rhithwir Little Troopers

Mae elusen Little Troopers wedi creu dau weithdy ar-lein rhad ac am ddim gyda’r nod o ddod â phlant y Lluoedd Arfog ynghyd i archwilio’r heriau unigryw a’r cyfleoedd maent yn eu profi ac i ddathlu beth mae’n ei olygu i fod yn ‘Filwr Bychan’.

Canlyniadau

Y nod yw i Blant y Lluoedd Arfog adael y sesiwn yn teimlo’n falch o’u hunaniaeth a theimlo fel bod eu hamgylchiadau unigryw a’u profiadau bywyd wedi’u cydnabod a’u deall. Bydd eich ysgol hefyd yn cael gwybodaeth ddefnyddiol i gynorthwyo â chefnogi Plant y Lluoedd Arfog yn barhaus yn eich lleoliad.

Dod â phlant at ei gilydd

Mae’r gweithdai hyn wedi eu creu gan ystyried pob Plentyn y Lluoedd Arfog o oed cynradd, sy’n golygu y gellir ei ddarparu i grŵp mawr o blant o wahanol oedrannau yr un pryd. Mae hyn yn rhoi cyfle i blant y Lluoedd Arfog, na fyddent o bosibl fel arfer yn cyfathrebu â’i gilydd, i rannu eu profiadau a sylweddoli nad ydynt ar eu pen eu hunain. Yn ogystal â hynny mae’r gweithdai wedi eu trefnu fel y bydd disgyblion yn mewngofnodi yr un pryd â phlant eraill y Lluoedd Arfog ar draws Cymru. Bydd hyn yn helpu’r gweithdai i deimlo mwy fel ‘digwyddiad’ cyffrous sy’n dod â phlant at ei gilydd ac yn rhoi teimlad o berthyn iddynt.

Anrhegion i blant y Lluoedd Arfog

Bydd pob plentyn sy’n cymryd rhan yn cael llyfr stori Little Troopers, tystysgrif, sticer a nwyddau SSCE Cymru.

Fe wnes i wir fwynhau’r gweithdy; roedd yn braf i wybod nad ydym ni ar ein pen ein hunain. Roedd gwybod fod yna rai eraill ar draws y byd sy’n cael y teimladau hyn yn dda i’w glywed. Dwi’n falch fod yna bobl yn yr ysgol sy’n ein helpu ni.

Roedd pawb wedi mwynhau’r gweithdy yn fawr, yn arbennig y chwarae rôl gan wneud gwarchodfa. Cafwyd llawer o chwerthin a hwyl.

Mae’r plant wedi elwa o’r gweithdy hwn ac roeddent yn llawn cyffro o rannu eu profiadau gydag athrawon a ffrindiau o’u siwrneiau yn symud tai ac ysgolion yn y gorffennol.

In preparation for your workshop…

Dewiswch pa weithdy ar y we yr hoffech ei wneud a rhowch wybod i ni pryd y byddwch yn ei gynnal drwy gwblhau’r ffurflen ar y dudalen hon. Yna gallwn anfon y canlynol i chi:

  • Llyfrau stori y bydd angen i’r plant eu defnyddio fel rhan o’r sesiwn.
  • Nwyddau SSCE Cymru gan gynnwys pinnau ysgrifennu, llyfrau nodiadau, marc llyfr a sticeri.

Recordiadau o’r gweithdai:

Mae’r sesiynau wedi eu recordio ymlaen llaw fel digwyddiad ‘byw’ ac maent yn cael eu darparu gan dîm profiadol o hwyluswyr gan ddefnyddio adnoddau ysgol gynradd Little Troopers sy’n cynnwys adrodd straeon, symudiad, trafodaethau grŵp a chwarae rôl. Mae’r gweithdai ar gael i holl Blant y Lluoedd Arfog o oed cynradd yn eich lleoliad ac maent yn addas ar gyfer grwpiau o unrhyw faint.

Gweithdai Little Troopers dros y we

Lawrlwythwch y PDF o ddolen Gweithdy’r Little Troopers uchod, bydd yn rhoi’r eitemau canlynol i chi eu hargraffu er mwyn paratoi cyn i chi gychwyn.

  • Canllaw yr Hwylusydd
  • Taflenni gwaith
  • Tystysgrifau

Yr hyn fyddwch chi ei angen yn ystod y gweithdy:

  • Cysylltiad rhyngrwyd da
  • Sgrin fawr y gall yr holl blant ei gweld – po fwyaf y gorau
  • Llawer o ofod er mwyn i’r plant fod ar wasgar a gallu symud o gwmpas
  • Pensiliau lliw neu greonau – bydd y creonau hyn yn cael eu defnyddio er mwyn i’r plant fynegi eu hemosiynau yn ystod un o’r gweithgareddau, felly sicrhewch fod yna ddigon iddynt ddewis ohonynt – e.e. coch, du, glas, melyn
  • Adnoddau (yn cael eu darparu gennym ni)
  • Nodiadau’r hwylusydd i’ch helpu chi i gefnogi’r plant drwy gydol y gweithdy (yn cael eu darparu gennym ni)
  • Nid oes angen gwe gamera arnoch chi.
Plîs nodwch enw eich ysgol.
Plîs nodwch eich cyfeiriad e-bost.

Photos

Fe fyddem wrth ein bodd yn gweld lluniau o’r plant yn cymryd rhan ar y diwrnod. Anfonwch bob llun at pr@littletroopers.net a SSCECymru@WLGA.gov.uk cyn gynted â phosibl ar ôl y digwyddiad er mwyn i ni allu eu rhannu ar y diwrnod. Sicrhewch mai dim ond lluniau o blant y mae eu rhieni wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio lluniau ohonynt y byddwch chi’n eu hanfon atom.

Cwestiynau Cyffredin

A all plant nad ydynt yn blant y Lluoedd Arfog / plant sifilaidd fynychu’r sesiynau?
Na. Mae’r sesiynau wedi’u dylunio i fod yn fan diogel i blant y Lluoedd Arfog archwilio eu profiadau o fywyd milwrol ac felly ni fyddai’n briodol i blant nad ydynt yn blant y Lluoedd Arfog fynychu.

Pa fath o le sydd ei angen arnom i gynnal y sesiwn?
Rydym yn awgrymu defnyddio teledu mawr neu sgrin daflunydd y gall y plant i gyd ei weld. Hefyd mae angen i chi ganiatáu lle i symud, chwarae rôl a chymryd rhan mewn gweithgareddau taflenni gwaith. Chi sydd i ddewis sut rydych chi’n gosod yr ystafell.  Bydd grwpiau llai yn iawn mewn ystafell ddosbarth. Efallai y bydd grwpiau mwy yn well mewn neuadd.

A oes angen i ni droi ein camerâu gwe ymlaen?
Nac oes. Mae’r digwyddiad yn cael ei recordio ymlaen llaw ‘fel pe bai’n fyw’. Mae hyn yn golygu y bydd yn edrych fel digwyddiad byw ond ni fyddwn yn gallu gweld na chlywed y plant.

Pwy ddylem ni gysylltu â nhw os bydd gennym unrhyw broblemau ar y diwrnod?
Gallwch anfon e-bost at SSCECymru@wlga.gov.uk

A oes angen i athro/athrawes / cymhorthydd addysgu fod yn bresennol?
Oes. Fe fyddem yn awgrymu fod o leiaf dau aelod o staff yn mynychu’r sesiwn gan ein bod angen cefnogaeth yn y sesiwn i ddosbarthu taflenni gwaith, annog y plant i sefyll / eistedd yn y lle iawn, a bydd cyfnod o ddeg munud lle anogir plant i gymryd rhan yn eu gweithgaredd chwarae rôl eu hunain.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.