Mae’r ffilmiau yma yn dangos nifer o blant y Lluoedd Arfog ar draws Cymru yn siarad am eu profiadau o fod yn rhan o deulu'r Lluoedd Arfog. Maent yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â’r hyn maent yn ei hoffi a’r hyn nad ydynt yn ei hoffi am y profiadau hynny ac yn rhannu manylion ynglŷn â’r hyn wnaeth bethau’n haws iddynt ddelio gyda heriau penodol.
“Dwi wedi symud saith o weithiau mewn pedair blynedd ar ddeg.”
“Nawr mae gennym ni gartref am byth. Does dim rhaid i mi boeni byth am adael neu faint o amser sydd yna nes y byddaf yn gadael. Dwi’n teimlo fel mod i’n perthyn yma yn llawer mwy, mae hynny bob amser yn wych.”
“Ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf, mae fy Nhad yn mynd i ffwrdd yn eithaf pell. Mae yn y Fyddin, mae’n gogydd. Pan mae eich Tad yn mynd mae mor drist.”
“Dwi wedi byw mewn nifer o leoedd. Felly fe ges i fy ngeni yng Nghyprus, wedi hynny dwi wedi bod i’r Almaen, yna fe es i’r lle yma o’r enw Stafford. Yna lle arall sef Cymru.”
“Mae fy Nhad yn y Fyddin ac mae’n gweithio gyda’r Peirianwyr ac mae’n mynd i ffwrdd ar ddyddiau’r wythnos ac yn dod yn ôl ar benwythnosau."
“Mae Dad yn mynd i ffwrdd yn aml. Mae’n achosi ychydig o bryder, peidio â gwybod lle mae eich tad yn mynd. Mae’n fy mhoeni i a fy chwaer. Dydych chi fyth yn gwybod pryd mae’n dod adref.”
“Fy Mam yw fy rhiant sydd yn y Lluoedd Arfog. Mae’n filwr wrth gefn. Felly pan oeddwn i’n iau roedd yn llawer gwaeth, roedd yn teithio o gwmpas llawer. Dwi wedi byw yn yr un tŷ ar hyd fy oes, ond mae hi wedi symud o fy amgylch i. Roeddwn mewn cylch parhaus o ffarwelio.”
“Mae ein llystad yn y Fyddin, mae’n weldiwr, mae gyda’r Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol.” Ivy
“Mae bod yn blentyn milwrol yn anodd, ond mae hefyd yn arwain at lawer o brofiadau newydd i chi na fyddwn wedi eu profi fel arall.” Esme-Jane
“Ar gyfer plant y Lluoedd Arfog mae ganddyn nhw [Ysgol Iau Mount Street] glwb o’r enw Milwyr Bach, maent wedi cynnal gwasanaeth coffa, diwrnod piws. Rydym yn dathlu Holi a Diwali.”
Mae’r ffilm hwn yn dangos plant y Lluoedd Arfog ar draws Cymru yn darparu enghreifftiau o’r math o brofiadau maent wedi eu hwynebu a sut mae’r rhain wedi gwneud iddynt deimlo.
"Fe all fod yn frawychus pan mae i ffwrdd a phan nad ydych yn gwybod beth sy’n digwydd.”
“Mae symud mor aml wedi cael effaith fawr, dwi wedi gorfod neilltuo amser i wneud ffrindiau sy’n anodd ond rydych yn dod i arfer â hynny.”
“Roeddwn mor nerfus ynglŷn â dysgu Cymraeg ond nawr dwi’n gallu siarad Nepali, Saesneg a Chymraeg.”
“Dwi’n teimlo’n drist gan nad ydi Mam gyda fi rhyw lawer ond yn hapus gan fod Dad gyda fi.”
“Pan oeddwn i’n iau roedd yn effeithio llawer mwy arna i, gan nad oeddwn i’n deall pam roeddem ni’n symud.”
“Mae’n braf siarad dros Skype ac ati, ond weithiau yr unig beth rydych chi ei eisiau ydi cwtsh gan eich Tad.”
“Dwi wedi arfer gyda fy Nhad yma a dwi wedi arfer gyda fy Nhad i ffwrdd. “Dwi wedi dysgu byw gyda’r hyn sydd gen i.”
“Dim ond am 5 mlynedd rwy’n cael aros yma ac wedyn mae’n rhaid i mi symud eto.”
“Roeddwn i’n meddwl y byddwn yn cael fy mwlio.”
“Dwi wedi mwynhau mynd i lawer o leoedd o amgylch y byd gan fod hynny’n anturus, mae’n gyffrous mynd i leoedd newydd a chyfarfod pobl newydd.”
“Fe arwyddodd i ymadael yr wythnos ddiwethaf, bydd wedi gorffen erbyn diwedd y flwyddyn. Mae wedi bod yn y fyddin ers 24 mlynedd. Mae hyn yn llawer gwell gan ei fod yn mynd i fod o gwmpas llawer mwy ac mae gen i rygbi ar ddydd Llun a dydd Mawrth ac mae’n hoffi ein gwylio’n chwarae.”
Roedd fy nhad yn gwasanaethu gyda’r Gurkhas ac fe aeth i Affganistan tua 6 gwaith, roeddwn i’n arfer bod yn drist iawn ac roeddwn yn arfer arogli ei ddillad a chrïo.”
"Mae’n golygu bod yn rhan o deulu enfawr sy’n cwmpasu hyd cyfan y DU, Yr Almaen, Affganistan ac unrhyw le arall rydym ni ynddo.”
“Efallai y byddwn i’n mynd i ysgol breswyl fel nad ydw i yn newid ysgol bob dwy flynedd.”
“Fe gafodd fy mam fwrdd du ac mae’n dweud arno, ‘mae dad adref mewn…’ ac wedyn rydych chi’n rhoi sawl noson o gwsg sydd yna arno.”
“Dwi’n credu mod i wedi bod i bedair ysgol, dwi wedi symud tua chwe gwaith.”
"Os ydw i’n mynd i le gwahanol yn llwyr, nid ydynt yn gwybod unrhyw beth amdanaf i ac mae hynny’n ailddechrau mawr ac mae hynny’n dda iawn i mi.”
“Dwi wedi gwneud ffrindiau da iawn ym mhob ysgol dwi wedi bod iddi ond yna mae’n rhaid i mi symud ar fyr rybudd.”
“Bob tro roedd yn gadael roedd hynny yn gwneud i mi deimlo’n bryderus ac roeddwn yn poeni a oeddwn i’n mynd i’w weld eto.”
To celebrate Month of the Military Child 2026, in collaboration with Never Such Innocence, SSCE Cymru launched five songs written by Service children across Wales. The songs, which were created during the SSCE Cymru Armed Forces Festivals in 2025, shine a light on their thoughts, feelings and lived experiences of Service life. These powerful pieces capture pride, resilience, connection and the realities of growing up in a Service family in their own voices.
77% of Service children have moved to a new house and 37% have lived abroad.
54% of Service children have attended at least three schools.
Article 12: I have the right to be listened to and be taken seriously.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.