Cydgysylltu gwaith ymchwil a chasglu tystiolaeth ar brofiadau plant sy'n gwasanaethu yn maes addysg i sicrhau bod dealltwriaeth dda o'u hanghenion.
Cydweithio ag aelodau rhwydwaith SSCE Cymru i gynnal gweithgareddau a chynhyrchu adnoddau a fydd yn helpu i gefnogi plant y Lluoedd Arfog ar hyd eu haddysg.
Gweithio gyda sefydliadau i roi tystiolaeth ac effaith polisi sy'n berthnasol i gefnogi plant mewn addysg.
Rhaglen Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yw Cefnogi Plant Aelodau’r Lluoedd Arfog Mewn Addysg yng Nghymru (SSCE Cymru) a ariannwyd i ddechrau o Gronfa Cefnogi Addysg y Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) ond a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2019.
Ers i'r rhaglen ddechrau yn 2014, mae SSCE Cymru wedi gweithio gydag ysgolion, plant a phobl ifanc, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, gweithwyr addysg proffesiynol, teuluoedd y Lluoedd Arfog a sefydliadau cymorth. Trwy'r gwaith hwn, mae wedi casglu safbwyntiau a phrofiadau, adeiladu rhwydweithiau ledled Cymru, a chodi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o brofiadau plant personél y Lluoedd Arfog. Mae SSCE Cymru wedi datblygu canllawiau ac adnoddau digidol ar gyfer ysgolion a theuluoedd, wedi cynnal digwyddiadau, ac wedi comisiynu ymchwil i ddeall anghenion plant y Lluoedd Arfog mewn addysg yn well.
Diffiniad newydd Llywodraeth Cymru o blentyn y Lluoedd Arfog (o Ebrill 2026):
Plentyn y Lluoedd Arfog yw plentyn sydd â rhiant/rhieni neu ofalwr/ofalwyr gyda chyfrifoldeb rhiant sydd:
· Yn gwasanaethu ar hyn o bryd yn Lluoedd Arfog Rheolaidd neu Wrth Gefn EF – y Llynges Frenhinol neu’r Môr-filwyr Brenhinol, Byddin Prydain, neu’r Llu Awyr Brenhinol.
· Wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog yn flaenorol ac wedi gadael yn y chwe blynedd ddiwethaf.
· Wedi marw wrth wasanaethu yn y Lluoedd Arfog, ac mae’r plentyn yn derbyn pensiwn dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog neu’r Cynllun Pensiwn Rhyfel.
Mae SSCE Cymru hefyd yn annog ysgolion i ystyried adnabod plant a phobl ifanc sydd ynghlwm â’r Lluoedd Arfog.
NODER: O fis Ebrill 2026 ymlaen, ymestynnwyd diffiniad Llywodraeth Cymru o blentyn y Lluoedd Arfog ar gyfer plant cyn-filwyr a oedd wedi gwasanaethu o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf, hyd at chwe blynedd. Mae'r data sydd gan SSCE Cymru ar hyn o bryd yn adlewyrchu'r hen ddiffiniad (cyn-filwyr a wasanaethodd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf). O fis Medi 2026 ymlaen, bydd SSCE Cymru yn casglu data ar y diffiniad newydd o blentyn y Lluoedd Arfog (gan gynnwys cyn-filwyr sydd wedi gwasanaethu yn ystod y chwe blynedd diwethaf).
Erthygl 42: Dylai pawb wybod am hawliau plant.
Erthygl 4: Rhaid i lywodraethau amddiffyn a pharchu fy hawliau.
Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.