Adnoddau

Canllaw Teulu Lluoedd Arfog

Canllaw Teulu Lluoedd Arfog

Nod Canllaw i Deuluoedd Gwasanaeth y Lluoedd Arfog SSCE Cymru yw darparu gwybodaeth am addysg a bywyd yng Nghymru a’r gefnogaeth sydd ar gael i ysgolion, rhieni/gofalwyr a phlant y Lluoedd Arfog.  

Cafodd strwythur a chynnwys y Canllaw i Deuluoedd Gwasanaeth y Lluoedd Arfog eu datblygu yn seiliedig ar ganfyddiadau adroddiad canfyddiadau arolwg rhieni / gofalwyr SSCE Cymru. Cynhyrchwyd y canllaw gyda chefnogaeth rhwydwaith SSCE Cymru, i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir mor berthnasol a chywir ag sy’n bosibl. 

Mae Canllaw i Deuluoedd Gwasanaeth y Lluoedd Arfog SSCE Cymru yn cynnwys yr adrannau canlynol: 

  • Profiadau plant y Lluoedd Arfog 

  • Y Lluoedd Arfog yng Nghymru 

  • Byw yng Nghymru 

  • Addysg yng Nghymru 

  • Derbyniadau ysgolion ac absenoldeb yn ystod y tymor  

  • Iechyd, lles ac Anghenion Dysgu Ychwanegol 

  • Cefnogaeth i ysgolion. 

Lawrlwythwch y Canllaw i Deuluoedd Gwasanaeth y Lluoedd Arfog SSCE Cymru yma 

Mae’r Canllaw i Deuluoedd Gwasanaeth y Lluoedd Arfog SSCE Cymru hefyd ar gael yn Saesneg a Nepaleg. 

Lansiwyd: Mai 2021 

Dylid anfon unrhyw ymholiadau neu adborth am gynnwys y Canllaw i Deuluoedd Gwasanaeth y Lluoedd Arfog yn uniongyrchol i SSCECymru@wlga.gov.uk.  

Canfyddiadau o wrando ar blant y Lluoedd Arfog (2020)

Mae 88% o blant y Lluoedd Arfog wedi symud ysgol o leiaf unwaith oherwydd bod eu rhiant / rhieni wedi gorfod symud oherwydd eu gwaith. 

Arolwg rhieni/gofalwyr y Lluoedd Arfog (2020)

Beth fyddai wedi helpu plentyn / plant y Lluoedd Arfog i setlo mewn cymuned ac ysgol newydd: nododd 69% y byddai gwybodaeth am addysg yng Nghymru wedi helpu ac awgrymodd 59% fanylion cyswllt a chyfeirio at sefydliadau perthnasol. 

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.