Gwybodaeth i blant y Lluoedd Arfog

Plant gwasanaeth

Gwybodaeth i blant y Lluoedd Arfog

Mae SSCE Cymru’n deall eich bod efallai wedi wynebu profiadau unigryw adref ac yn yr ysgol gan fod gennych riant neu rieni sydd yn y Lluoedd Arfog, neu wedi bod yn y gorffennol. 

Efallai y buoch chi’n byw dramor, wedi symud i fyw a newid ysgol ynghanol y flwyddyn, wedi gwneud ffrindiau newydd, bod eich rhiant neu rieni wedi bod i ffwrdd yn gweithio neu wedi gorfod cefnogi ffrind oedd yn mynd drwy un o’r profiadau hynny. Gall llawer o’r profiadau hyn fod yn gyffrous a diddorol iawn ond gallant hefyd fod yn heriol. Mae pob plentyn yn delio â’r emosiynau sy’n codi mewn sefyllfaoedd fel hyn yn wahanol. 

Diben rhaglen SSCE Cymru yw sicrhau fod athrawon a staff mewn ysgolion yng Nghymru’n deall y profiadau a’r heriau y gallech fod yn eu hwynebu oherwydd y ffordd o fyw i deuluoedd ag aelodau yn y Lluoedd Arfog. Mae SSCE Cymru’n darparu adnoddau sy’n helpu ysgolion i gefnogi plant y Lluoedd Arfog er mwyn sicrhau eu bod yn cael profiadau mor gadarnhaol â phosib wrth fynd i ysgol neu ysgolion yng Nghymru. 

Listening to our Service children findings (2020).

Gwnaeth 51% ohonynt sylwadau negyddol am adael eu ffrindiau/teulu a gwnaeth 31% sylwadau cadarnhaol am gwrdd â phobl newydd/gwneud ffrindiau. 

Article 13:

Mae gennyf hawl i gael gwybodaeth a lleisio fy marn. 

Croeso i Gymru

Mae Cymru’n genedl yn y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am wneud llawer o benderfyniadau ei hun ynglŷn ag addysg. 

Mae’n debyg mewn llawer o ffyrdd i wledydd eraill yn y Deyrnas Unedig, ond mae’n wahanol iawn hefyd. 

I’r gorllewin o Loegr, mae Cymru yn yr un parth amser (Amser Greenwich) ac yn defnyddio’r un arian (y bunt) â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Caerdydd yw prifddinas Cymru. 

Culture

Wales is a nation that is very proud of its culture and heritage. The red dragon, daffodils and leeks are some of the national symbols of Wales. The national anthem is 'Hen Wlad fy Nhadau' (Land of my Fathers).

Further information about Wales can be found here.

The feast day of St. David, the patron saint of Wales, is 1st March. In many schools across Wales, this day is marked by special activities, and some children wear traditional Welsh costumes; others may wear rugby shirts or take in leeks and daffodils.

The Eisteddfod (pronounced eye-steth-vod) is a Welsh festival of music, literature and performance. Some schools in Wales create their own Eisteddfod as part of their St. David’s Day celebrations. This can include making arts and crafts, and writing or reciting songs and poems. These events and activities can take place in English and in Welsh.

Further information on St. David’s Day can be found here.

Education

The education system in Wales used to resemble the structure set up in England, with maintained schools (most state schools) following the National Curriculum. However, from September 2022 a new curriculum was introduced that has been created in Wales by teachers, partners, practitioners and businesses. The age of a child on 1 September determines when they need to start primary school.

From September 2022, phases and key stages were replaced with one continuum of learning from ages 3 to 16 in each of the new areas of learning. The areas are:
- Expressive arts
- Humanities
- Health and wellbeing
- Science and technology
- Mathematics and numeracy
- Languages, literacy and communication.

In addition, literacy, numeracy and digital skills will be embedded throughout all curriculum areas.

Adnoddau a chefnogaeth

Little Troopers

Mae’r elusen hon yn cefnogi plant ysgol gynradd â rhieni yn y Lluoedd Arfog drwy roi cyngor ac adnoddau i’w helpu yn y dosbarth ac ar yr aelwyd. 

Mae arnoch angen manylion mewngofnodi i fedru defnyddio rhai o’r adnoddau isod. 

Relevant resources

www.littletroopers.net

Reading Force

Mae’r sefydliad hwn yn defnyddio llyfrau i ddod â phlant a theuluoedd y Lluoedd Arfog yn nes at ei gilydd. Cynllun darllen ar y cyd ydyw sy’n annog teuluoedd i ddarllen, siarad a chreu llyfryn am lyfr, gan wella cyfathrebu a chyfoethogi eu perthnasau gyda llyfrau a’i gilydd. 

Relevant resources

www.readingforce.org.uk

Armed Forces Education Trust

“Ein nod yw helpu i ariannu addysg plant sydd â’u rhieni yn y lluoedd arfog sydd wedi cael eu rhoi dan anfantais oherwydd gwasanaeth eu rhieni. Rydym hefyd yn darparu cyllid i ysgolion ar gyfer adnoddau ychwanegol i gefnogi addysg plant sydd â’u rhieni yn y Lluoedd Arfog neu wedi bod yn y gorffennol.” 

Relevant resources

Llinellau cymorth a chefnogaeth

Meic

Os oes arnoch angen cyngor, rhywun i gysylltu â nhw neu rywun i wrando, rydych chi wedi dod i’r lle iawn. Rhannwch yr hyn sydd ar eich meddwl ar ein Byrddau Trafod, ymunwch â Grŵp Cefnogi am gefnogaeth wyneb yn wyneb neu siaradwch â’r tîm cymwys sydd gennym. Pa bynnag ffordd y dewiswch gysylltu, rydyn ni yma i chi.  

Meic

The Mix

Pwy bynnag ydych chi a pha bynnag brofiadau rydych chi’n mynd drwyddynt, mae’n gallu bod yn help i siarad am y peth ac mae’n bwysig gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun. Mae pawb yn cael trafferth ag iechyd meddwl o bryd i’w gilydd, ac mae arnom i gyd angen cefnogaeth. 

The Mix

Heads Together

Pwy bynnag ydych chi a pha bynnag brofiadau rydych chi’n mynd drwyddynt, mae’n gallu bod yn help i siarad am y peth ac mae’n bwysig gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun. Mae pawb yn cael trafferth ag iechyd meddwl o bryd i’w gilydd, ac mae arnom i gyd angen cefnogaeth. 

Heads Together

Barnardo's

Mae tyfu i fyny’n anodd i bawb, ond mae’n anos fyth i rai pobl ifanc. Mae Barnardo’s yn cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol fel bod pobl ifanc yn tyfu’n oedolion hyderus sy’n medru cyflawni eu llawn botensial. 

Relevant resources

www.barnardos.org.uk

Darpariaeth ieuenctid

RFCA

Mae’r sefydliad hwn yn darparu gwasanaethau cefnogi’n uniongyrchol i’r Llynges Frenhinol Wrth Gefn, y Môr-filwyr Brenhinol Wrth Gefn, y Fyddin Wrth Gefn, yr Awyrlu Cynorthwyol Brenhinol a’u Cadetiaid. 

Relevant resources

www.wales-rfca.org

Cyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru (CWVYS)

Cyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru (CWVYS) yw’r corff annibynnol sy’n cynrychioli’r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru. 
 
Ei nod yw cynrychioli eu haelodau, sy’n cynnwys sefydliadau cenedlaethol a lleol sy’n gweithio â mwy na 250,000 o bobl ifanc yng Nghymru, eu cefnogi a rhoi llais ar y cyd iddynt. Mae CWVYS yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau sy’n hyrwyddo arferion da mewn gwaith ieuenctid. 

Cyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru (CWVYS)

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yw’r man cyswllt cyntaf i deuluoedd a gofalwyr gael cyngor a gwybodaeth am wasanaethau lleol.   

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.