Cyllid

Schools & LAs

Cyllid

Mae ysgolion ac awdurdodau lleol ledled Cymru yn mabwysiadu ymagwedd ragweithiol at sicrhau nad yw plant y Lluoedd Arfog dan anfantais gan yr heriau unigryw sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw y Lluoedd Arfog.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i ysgolion ac awdurdodau lleol gael gafael ar gyllid ychwanegol i barhau i gefnogi eu plant y Lluoedd Arfog yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae SSCE Cymru yn cydnabod y gall nodi cyfleoedd ariannu addas, penderfynu pa grantiau sy'n cyd-fynd orau â phrosiectau penodol, a chwblhau prosesau ymgeisio fod yn heriol. Felly, rydym yn falch o gynnig arweiniad a chefnogaeth i helpu ysgolion ac awdurdodau lleol i gael mynediad at gyfleoedd cyllid priodol.

 

Dim Premiwm Disgyblion Plant y Lluoedd Arfog (SPP) yng Nghymru
Mae'r ‘Service Pupil Premium’ yn Lloegr yn darparu cyllid blynyddol fesul plentyn y Lluoedd Arfog i helpu i ddarparu cymorth bugeiliol ychwanegol i leihau'r anfanteision y gallant eu profi o ganlyniad i fywyd y Lluoedd Arfog. Gall ysgolion yng Nghymru gael gafael ar cyllid i gefnogi eu plant Lluoedd Arfog drwy'r cynlluniau grant a nodir isod.

Arolwg ysgolion SSCE Cymru (2019)

Yr heriau mwyaf arwyddocaol maent yn eu hwynebu wrth gefnogi plant y Lluoedd Arfog: nododd 25% o ysgolion cynradd mai Cyllid ydoedd.

Cyngor SSCE Cymru ar gyllid

Mae'r dogfennau hyn yn darparu cyngor gan dîm SSCE Cymru ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol, i'w cynorthwyo wrth wneud cais am gyllid i gefnogi plant y Lluoedd Arfog.

Mae'r cyngor a ddarperir yn gyffredinol ac nid yw'n benodol i unrhyw ffrwd ariannu benodol.

Mae'r rhestr wirio yn cynnwys camau gweithredu a awgrymir i helpu wrth baratoi a chwblhau cais am gyllid.

Mae'r ddogfen syniadau ac awgrymiadau yn cynnwys enghreifftiau o weithgareddau y gallai ymgeiswyr eu hymgorffori fel rhan o brosiectau a ariennir i gefnogi plant y Lluoedd Arfog.

Mae tîm SSCE Cymru hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio cyllid anffurfiol i drafod syniadau cyllido a darparu cyngor.

Cronfa Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog Mewn Addysg yng Nghymru (2026/27)

Ariennir y Gronfa Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg yng Nghymru (SSCE-WF) gan Lywodraeth Cymru a'i gweinyddu gan SSCE Cymru.

Gall ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru wneud cais am gyllid grant i gyflawni prosiectau ac ymyriadau yn ystod blwyddyn academaidd 2026/27, i ddarparu cymorth i blant y Lluoedd Arfog sy'n bodloni diffiniad Llywodraeth Cymru o plentyn y Lluoedd Arfog.

Mae tri grant ar gael:

  • Grantiau prosiect bach
  • Grant Mis y Plentyn Milwrol
  • Grant ymyrraeth.

Gweler y ddogfen Trosolwg a chanllawiau am ragor o wybodaeth am flaenoriaethau a meini prawf cymhwysedd ar gyfer y tri grant.

Trosolwg a Chanllawiau SSCE-WF

Grantiau prosiect bach

Gall ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru wneud cais am grant bach i gyflawni prosiect sy'n darparu cymorth i'w plant y Lluoedd Arfog.

Prosiectau hyd at £500 – ar agor i bob awdurdod lleol ac ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Prosiectau hyd at £1,000 – ar agor i bob awdurdod lleol yng Nghymru ac ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru sydd â statws dilys Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru.

Themâu blaenoriaeth:
- Cymorth academaidd
- Cymorth lles
- Llais plant y Lluoedd Arfog.

Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau:
Rownd 1: 9 Hydref 2026
Rownd 2: 11 Rhagfyr 2026

Bydd ceisiadau yn cael eu hadolygu o fewn 14 diwrnod i'r dyddiadau cau uchod.

Grant prosiect bach (hyd at £500) FFURFLEN CAIS

Grant prosiect bach (hyd at £1,000) FFURFLEN CAIS

Grant Mis y Plentyn Milwrol

Gall ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru wneud cais am hyd at £500 i gyflwyno gweithgareddau a dathliadau yn ystod Mis Plentyn Milwrol ym mis Ebrill.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:
12th Chwefror 2027

 Bydd ceisiadau yn cael eu hadolygu o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad cau uchod.

FFURFLEN CAIS Grant Mis y Plentyn Milwrol

Grant ymyrraeth

Gall ysgolion yng Nghymru wneud cais am hyd at £500 i ddarparu cymorth tymor byr, wedi'i dargedu i blentyn y Lluoedd Arfog unigol neu nifer fach o blant y Lluoedd Arfog, i helpu i fynd i'r afael â rhwystrau uniongyrchol i ddysgu, lles ac ymgysylltu oherwydd effaith ffordd o fyw y Lluoedd Arfog.

Gellir cyflwyno ceisiadau ar unrhyw adeg trwy gydol y flwyddyn academaidd a byddant yn cael eu hadolygu o fewn 14 diwrnod i'w cyflwyno.

 Rhaid i ysgolion gysylltu â SSCE Cymru i drafod anghenion plentyn y Lluoedd Arfog a phenderfynu a yw'r cyllid hwn yn briodol cyn cyrchu'r ffurflen gais.

Cyllid grant

NID yw'r grantiau canlynol yn cael eu gweinyddu gan SSCE Cymru, ond byddai'r tîm yn falch iawn o gefnogi unrhyw ysgol neu awdurdod lleol yng Nghymru i gynllunio a chyflwyno cais. Gweler yr adran cyngor cyllido uchod.

 

Rhaglen Cefnogi Disgyblion y Lluoedd Arfog

Mewn partneriaeth â’r Weinyddiaeth Amddiffyn caiff y rhaglen hon ei gweinyddu gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, sef elusen…

Ymddiriedolaeth Addysg y Lluoedd Arfog

Mae Ymddiriedolaeth Addysg y Lluoedd Arfog (AFET) yn elusen sy’n gweithio i blant ac oedolion ifanc y mae eu haddysg…

Cyllid ar gyfer Plant a Phobl Ifanc y Lluoedd Arfog

Cyllid ar gyfer Plant a Phobl Ifanc y Lluoedd Arfog - Trosolwg a dadansoddiad.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.