Ymchwil

Data

Pam ein bod yn cofnodi data ar blant y Lluoedd Arfog?

  • Data yw’r allwedd i ddeall effaith ffordd o fyw y Lluoedd Arfog ar blant y Lluoedd Arfog
  • Gall ysgolion fod wedi paratoi’n well i gefnogi plant y Lluoedd Arfog
  • Gellir gwneud cymariaethau o ran lefelau cyrhaeddiad rhwng plant y Lluoedd Arfog a phlant nad ydynt yn blant y Lluoedd Arfog
  • Gellir canfod patrymau o ran absenoldeb o'r ysgol
  • Gall awdurdodau lleol baratoi i gefnogi plant y Lluoedd Arfog o ran eu hiechyd meddwl a'u hanghenion o ran lles
  • Gall asiantaethau ddarparu cefnogaeth a nodi lle mae yna fylchau o ran darpariaeth
  • Gellir targedu adnoddau i gefnogi anghenion penodol mewn lleoliadau daearyddol gwahanol
  • Gellir cynnal ymchwil pellach gyda grŵp cynhwysol o gyfranogwyr.

Diffiniad Llywodraeth Cymru o blentyn y Lluoedd Arfog (o Ebrill 2026): 

Plentyn y Lluoedd Arfog yw plentyn sydd â rhiant/rhieni neu ofalwr/ofalwyr gyda chyfrifoldeb rhiant sydd: 

  • Yn gwasanaethu ar hyn o bryd yn Lluoedd Arfog Rheolaidd neu Wrth Gefn EF – y Llynges Frenhinol neu’r Môr-filwyr Brenhinol, Byddin Prydain, neu’r Llu Awyr Brenhinol. 

  • Wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog yn flaenorol ac wedi gadael yn y chwe blynedd ddiwethaf. 

  • Wedi marw wrth wasanaethu yn y Lluoedd Arfog, ac mae’r plentyn yn derbyn pensiwn dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog neu’r Cynllun Pensiwn Rhyfel. 

Mae SSCE Cymru hefyd yn annog ysgolion i ystyried adnabod plant a phobl ifanc sydd ynghlwm â’r Lluoedd Arfog.   

Arolwg rhieni/gofalwyr y lluoedd (2020)

Yr heriau y mae ysgolion yn eu hwynebu wrth gefnogi plant y Lluoedd Arfog: 58% Adnabod plant y Lluoedd Arfog

“Dwi wedi mwynhau mynd i lawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous.”

Arolwg rhieni/gofalwyr y lluoedd (2020)

Systemau cefnogi a fyddai o fudd i blant y Lluoedd Arfog: 61% Adnabod plant y Lluoedd Arfog yn ystod y broses dderbyn

Plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru

Fe weithiodd SSCE Cymru gyda phob un o’r awdurdodau lleol ac ysgolion annibynnol yng Nghymru i gynnal gweithgaredd casglu data ar Blant y Lluoedd Arfog. Roedd hyn yn darparu cipolwg o nifer plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru a’u lleoliad.

Cliciwch ar enw awdurdod lleol i weld y data.

Anglesey Gwynedd Conwy Denbighshire Flintshire Wrexham Ceredigion Powys Pembrokeshire Carmarthenshire Swansea Neath Port Talbot Bridgend Rhondda Cynon Taf Merthyr Tydfil Caerphilly Vale of Glamorgan Cardiff Torfaen Newport Blaenau Gwent Monmouthshire
Awdurdod Lleol (ALl) Nifer yr ysgolion yn ALl Ysgolion gyda phlant Milwyr Nifer y plant Milwyr
Blaenau Gwent 30 5 21
Pen-y-bont ar Ogwr 60 38 213
Caerffili 85 19 93
Caerdydd 123 11 36
Sir Gaerfyrddin 109 40 127
Ceredigion 43 6 21
Conwy 58 15 73
Sir Ddinbych 56 11 65
Sir y Fflint 80 16 49
Gwynedd 94 8 13
Ynys Mon 44 12 107
Merthyr Tudful 29 8 59
Sir Fynwy 34 10 79
Castell-nedd Port Talbot 63 36 123
Casnewydd 56 17 95
Sir Penfro 62 28 263
Powys 87 44 270
Rhondda Cynon Taf 112 29 92
Abertawe 94 41 128
Torfaen 33 4 30
Bro Morgannwg 54 35 230
Wrecsam 70 14 79
       1477    447 2266

*data’r tabl yn gywir ym Ebrill 2026

Rhowch wybod i SSCE Cymru am blant y Lluoedd Arfog sydd yn eich ysgol

Helpwch ni i gasglu data ar y nifer o blant y Lluoedd Arfog yng Nghymru a’u lleoliad, er mwyn sicrhau fod ysgolion yn cael y gefnogaeth orau bosibl i blant y Lluoedd Arfog.

Gall ysgolion ddefnyddio’r templed canlynol: 4. Templedi: Casglu Data yn adran Adnoddau SSCE Cymru ar ein gwefan.

Noder drwy lenwi’r ffurflen hon y byddwch yn cael eich ychwanegu i rwydwaith SSCE Cymru. Bydd SSCE Cymru yn rhannu manylion am unrhyw ddigwyddiadau sydd i ddod, cyllid, y Bwletin Ysgol, adnoddau a’r gefnogaeth sydd ar gael gan dîm SSCE Cymru.

Cliciwch yma i lenwi ein ffurflen ar-lein

Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog Mewn Addysg Cymru: Astudiaeth o Ddata a’r Ddarpariaeth o ran Cefnogaeth yng Nghymru (2015)

Wedi ei gomisiynu gan SSCE Cymru a’i reoli gan Uned Ddata Cymru roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys cyfweliadau gydag ysgolion o bob cwr o Gymru a chanfuwyd mai ychydig iawn o ddata oedd ar gael ar blant y Lluoedd Arfog, gan ddangos yr angen am fwy o wybodaeth ac arweiniad i alluogi ysgolion i gasglu data a chael mynediad at gefnogaeth.

Yr hyn wnaeth yr adroddiad ei ganfod, wedi ei seilio ar y data mwyaf diweddar o’r cyfrifiad (2011), yw bod yna deuluoedd y Lluoedd Arfog gyda phlant hyd at 16 oed ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae data cyfrifiad 2011 yn dangos fod isafswm o 2,486 o blant yng Nghymru lle roedd Person Cyswllt y Cartref yn nodi ei fod ef neu hi yn y Lluoedd Arfog. Nid yw hyn yn cynnwys gwybodaeth lle mae’r sawl nad yw’n Berson Cyswllt y Cartref yn y Lluoedd Arfog, na gwybodaeth ar gyn-filwyr neu filwyr wrth gefn neu lle nad yw teuluoedd gyda phlant y Lluoedd Arfog yn byw yn yr un cyfeiriad.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn yma

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.