SSCE Cymru

Casglu data

Casglu data

Diffiniad newydd Llywodraeth Cymru o blentyn y Lluoedd Arfog (o Ebrill 2026):

Plentyn y Lluoedd Arfog yw plentyn sydd â rhiant/rhieni neu ofalwr/ofalwyr gyda chyfrifoldeb rhiant sydd:
• Yn gwasanaethu ar hyn o bryd yn Lluoedd Arfog Rheolaidd neu Wrth Gefn EF – y Llynges Frenhinol neu’r Môr-filwyr Brenhinol, Byddin Prydain, neu’r Llu Awyr Brenhinol.
Wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog yn flaenorol ac wedi gadael yn y chwe blynedd ddiwethaf.
Wedi marw wrth wasanaethu yn y Lluoedd Arfog, ac mae’r plentyn yn derbyn pensiwn dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog neu’r Cynllun Pensiwn Rhyfel.

Mae SSCE Cymru hefyd yn annog ysgolion i ystyried adnabod plant a phobl ifanc sydd ynghlwm â’r Lluoedd Arfog.

NODER: O fis Ebrill 2026 ymlaen, ymestynnwyd diffiniad Llywodraeth Cymru o blentyn y Lluoedd Arfog ar gyfer plant cyn-filwyr a oedd wedi gwasanaethu o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf, hyd at chwe blynedd. Mae'r data sydd gan SSCE Cymru ar hyn o bryd yn adlewyrchu'r hen ddiffiniad (cyn-filwyr a wasanaethodd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf). O fis Medi 2026 ymlaen, bydd SSCE Cymru yn casglu data ar y diffiniad newydd o blentyn y Lluoedd Arfog (gan gynnwys cyn-filwyr sydd wedi gwasanaethu yn ystod y chwe blynedd diwethaf).

 

Bydd y data a roddwch ar y ffurflen hon yn cael ei rannu gyda CLILC er mwyn deall nifer a lleoliad plant y Lluoedd Arfog mewn addysg yng Nghymru, gan alluogi SSCE Cymru i ddarparu'r wybodaeth, cyngor, y gefnogaeth a'r adnoddau priodol sy'n berthnasol i gefnogi plant y Lluoedd Arfog. I ddarllen mwy am sut mae CLlLC yn prosesu eich data personol, gweler yr hysbysiad preifatrwydd yma.

Plîs nodwch enw eich ysgol.
Please select a LA.
Plîs dewiswch fath o ysgol.
Plîs dewiswch iaith yr ysgol.
Plîs nodwch eich enw.
Plîs nodwch eich teitl swydd.
Plîs nodwch eich cyfeiriad e-bost.
Llenwch BOB RHAN o'r tabl os gwelwch yn dda.
Rhowch N/A ar gyfer unrhyw un nad yw'n berthnasol.
Rhowch ? Os yw'n anhysbys.
Grŵp flwyddyn Nifer o blant y Lluoedd Arfog* Nifer o blant y Lluoedd Arfog* sydd a ADY:
Meithrin
Derbyn
Blwyddyn 1
Blwyddyn 2
Blwyddyn 3
Blwyddyn 4
Blwyddyn 5
Blwyddyn 6
Blwyddyn 7
Blwyddyn 8
Blwyddyn 9
Blwyddyn 10
Blwyddyn 11
Blwyddyn 12
Blwyddyn 13
Cyfanswm

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.