Gwobrau Plant y Lluoedd Arfog Cymru

Plant gwasanaeth

Gwobrau Plant y Lluoedd Arfog Cymru

Cyflwynir Gwobrau Plant y Lluoedd Arfog Cymru mewn partneriaeth gyda CIC ‘Veterans Awards’ a SSCE Cymru, gyda chefnogaeth y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

Yng Nghymru mae gennym nifer o blant y Lluoedd Arfog sy’n gwneud pethau gwych yn eu cymdeithas ac wedi mynd y filltir ychwanegol i ragori yn eu meysydd perthnasol.  Rydym eisiau dathlu plant y Lluoedd Arfog sydd wedi ffynnu hyd yn oed yn ystod y cyfnodau anoddaf!

Rydym yn gobeithio y gall plant y Lluoedd Arfog sy’n cael eu henwebu ar gyfer ein gwobrau adrodd eu straeon a bod yn esiampl i blant y Lluoedd Arfog ar draws y DU ac rydym yn llunio cyfres fer o fideos gan y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol i rannu awgrymiadau a chyngor i gynorthwyo plant eraill y Lluoedd Arfog!  

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma. Cynhelir Gwobrau Plant y Lluoedd Arfog Cymru nesaf yn 2025.  Mwy o wybodaeth i ddilyn.

Gwobrau Plant y Lluoedd Arfog Cymru 2023

Dydd Sadwrn, 28 Hydref 2023, bu i ni ddathlu Gwobrau Plant y Lluoedd Arfog Cymru am y tro cyntaf.  Yn cael eu cyflwyno gan CIC ‘Veterans Awards’ , mewn partneriaeth gyda SSCE Cymru, ac wedi’u noddi gan Gyngor Powys, General Dynamics, YourNorth a Forces Fitness.  

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Ysgol Hyfforddi Troedfilwyr, Aberhonddu, gyda chefnogaeth timau ymgysylltu’r Fyddin a’r Awyrlu Brenhinol ac yn cynnwys cerddoriaeth gan fand gwych Tywysog Cymru!

Llongyfarchiadau i bawb wnaeth gyrraedd y rownd derfynol.  Cawsom hwyl yn dathlu gyda phob un ohonoch!

Y partner elusennol ar gyfer Gwobrau Plant Lluoedd Arfog Cymru eleni oedd Little Troopers.

Yn y digwyddiad, roedd cyfle hefyd i ddathlu llwyddiant ysgolion yng Nghymru sydd wedi cyflawni eu statws Aur fel Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog.

Mae modd gweld lluniau’r digwyddiad yn yr oriel ar waelod y dudalen.

Diolch yn fawr iawn i Little Troopers, Ffederasiwn Teuluoedd yr Awyrlu Brenhinol a Ffederasiwn Teuluoedd y Llynges am ddarparu nwyddau i fynd gyda’r bagiau rhoddion a roddwyd i’r 30+ o blant a phobl ifanc a ddaeth i’r digwyddiad.

enwebion

Mae enillwyr pob categori yw:

Cyfraniad i chwaraeon dan 11

Gold – Jack Woodhouse
Silver – Ollie Evans
Bronze – Harry Moore
Bronze - Freddie Scott

Cyfraniad i chwaraeon dros 11

Gold – Mollie Bastock
Silver – Luke Woodhouse
Bronze – Bleddyn Gibbs

Llysgennad y flwyddyn ar gyfer plant y lluoedd arfog

Gold – Riley Barn
SilverBeth Symmons
Bronze – Lyla McGuinness

Gwobr gymunedol dan 11

Gold – Samridhi Gurung
Silver – Sion Woodhouse
Bronze – Faith Lees
Bronze – Arushi Rai

Ysgol sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru - Ysgolion Aur

Cyflwynir i:

  • Ysgol Fabanod Mount Street, Powys
  • Ysgol Pen y Bryn, Conwy.
  • Ysgol Uwchradd Hwlffordd, Sir Benfro

Cyfweliadau

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.