Ymchwil

SCiP Alliance

Ynglŷn â Chynghrair Cynnydd Plant y Lluoedd Arfog (SCiP)

Mae SSCE Cymru yn aelod o grŵp ymarfer Cynghrair SCiP ac mae’n cymryd rhan yn y gweithgareddau y mae yn eu cynnal.

Mae gan Gynghrair SCiP weledigaeth: Bywydau ffyniannus i blant y Lluoedd Arfog.

Gweledigaeth Cynghrair SCiP: Rydym yn dod ag ymarferwyr, ymchwilwyr, gwneuthurwyr polisi a chyllidwyr ynghyd i greu sail dystiolaeth gryfach, gwell polisi a gwell cefnogaeth ar gyfer addysg a chynnydd plant y Lluoedd Arfog, gan roi eu lleisiau yng nghanol popeth rydym yn ei wneud.

Mae Cynghrair SCiP yn dilyn y weledigaeth a’r genhadaeth hon drwy arwain ar gydweithio i ddatblygu sail dystiolaeth gadarn, cysylltu a chefnogi ymarferwyr a dylanwadu ar amgylchedd y polisi. Mae ein hymatebion yn cael eu datblygu gyda a thrwy bobl ifanc gyda phrofiad bywyd.

Mae Cynghrair SCiP

  • yn dod â phobl ynghyd drwy rwydwaith cymunedol a Chanolbwyntiau, ar hyd a lled y DU, prosiectau ar y cyd a chynadleddau o ansawdd uchel. Mae hyn yn galluogi i adnoddau ac arbenigedd ar y cyd i gael eu trefnu’n effeithiol gan wella gwaith ymarferwyr o ran addysg a datblygiad plant y Lluoedd Arfog.
  • Datblygu adnoddau a chefnogaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac y gellir cael atynt yn hawdd - gan helpu ymarferwyr i ddarparu cefnogaeth o ansawdd i blant y Lluoedd Arfog ac i’w gilydd yn hyderus gan rannu syniadau, heriau a chamau gweithredu.
  • Arwain ymchwil manwl sy’n mynd i’r afael â blaenoriaethau plant y Lluoedd Arfog a’u cynghreiriaid - gan ein helpu ni i ddeall eu bywydau a beth sy’n gweithio i’w gwella.
  • Codi ymwybyddiaeth o anghenion plant y Lluoedd Arfog a darparu cyngor ac arweiniad ar bolisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth - gan helpu gwneuthurwyr polisi i gael gwared ar rwystrau i ddatblygiad a thargedu adnoddau a chefnogaeth.
  • Mae rhagor o wybodaeth am Gynghrair SCiP ar gael yma: www.scipalliance.org

Pecyn Gwaith Bywydau Ffyniannus

Mae’r gynghrair hefyd wedi casglu’r Pecyn Gwaith Bywydau Ffyniannus, gan ddarparu fframwaith o 7 o egwyddorion i ysgolion fel y gallant eu defnyddio i adlewyrchu ar eu hymarfer a chyfres 3 haen o adnoddau Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Mae’r adnoddau yn y pecyn gwaith hwn wedi eu datblygu ar y cyd gydag ystod o bartneriaid ar draws y DU ac yn cynnwys:

  • Animeiddiad rhagarweiniol;
  • Adnodd manwl yn cyflwyno’r sail dystiolaeth, beth all ysgolion ei wneud i gefnogi plant y Lluoedd Arfog a phwy all helpu ac;
  • Astudiaethau achos ysgolion.

Ymchwil y Gynghrair SCiP

Mae’r Gynghrair SCiP wedi ymrwymo i wella canlyniadau addysg bellach ac uwch i blant y Lluoedd Arfog. Mae angen iddo wybod yn well cyn y gall wneud yn well. Dyna pam mae’r Gynghrair SCiP yn ganolbwynt ymchwil-ymarfer.

Mae Cynghrair SCiP yn cynhyrchu nodiadau briffio sydd yn helpu i grynhoi ymchwil a darparu argymhellion ar gyfer ymarfer a pholisi. Mae eu pynciau yn cynnwys gwytnwch a symud ysgolion. Gellir gweld y gyfres o nodiadau briffio yma.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am ymchwil sy’n berthnasol i brofiadau plant y Lluoedd Arfog ar wefan Cynghrair SCiP.

Datblygu plant y Lluoedd Arfog i addysg bellach ac addysg uwch

“Mae pedwar o bob deg plentyn y Lluoedd Arfog sydd â'r gallu i fynd ymlaen i addysg uwch yn annhebygol o wneud hynny.”
McCullouch and Hall (2016), Datblygiad Pellach ac Uwch i Blant y Lluoedd Arfog

 

Gwrando er mwyn Dysgu: Lleisiau Plant y Lluoedd Arfog

Rhaglen o waith ymchwil i wella ein dealltwriaeth o sut roedd y rhai hynny sy’n cefnogi plant o deuluoedd y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr/rhai sydd wedi bod yn y Lluoedd Arfog yn rhoi lleisiau'r plant yn graidd i bopeth maent yn ei wneud.
Hall (2020), 
Gwrando i Ddysgu: Lleisiau Plant y Lluoedd Arfog

 

Cyllid ar gyfer plant a phobl ifanc y Lluoedd Arfog

Nod yr adroddiad, a gynhyrchwyd ar y cyd â’r Cyfeiriadur Newid Cymdeithasol, yw darparu’r cyfrif systematig a manwl cyntaf o dirwedd cyllid ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc y Lluoedd Arfog.

Howarth and Doherty (2023), Cyllid ar gyfer plant a phobl ifanc y Lluoedd Arfog

Cynghrair SCiP – Hwb Cymru

Mae rhwydwaith Cynghrair SCiP o ganolfannau rhanbarthol yn dod â phartneriaethau ynghyd sydd yn cysylltu budd-ddeiliaid fel y gallant wneud y canlynol:

  • Galluogi cydweithio newydd a gwell
  • Hwyluso cyfathrebu
  • Meithrin gallu a galluogrwydd
  • Estyn allan tuag at fudd-ddeiliaid newydd
  • Cyfathrebu gyda Bwrdd Strategol a Grŵp Ymarfer Cynghrair SCiP, cyfrannu ato a thynnu oddi wrtho.
  • Rhannu ac ymateb ar y cyd i: 
    • Ymarfer effeithiol
    • Heriau
    • Syniadau
    • Blaenoriaethau
    • Cwestiynau

Mae Cynghrair SCiP Hwb Cymru yn cael ei gynnal gan Brifysgol De Cymru a SSCE Cymru ar y cyd. Cafodd y cyfarfod cyntaf ei gynnal ym mis Tachwedd 2019 ac roedd yn dod â sefydliadau ynghyd i drafod ymchwil, polisi ac ymgysylltiad y Brifysgol gyda phlant y Lluoedd Arfog a chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

Ymhlith y sefydliadau sy’n ymwneud â Chynghrair SCiP – Hwb Cymru mae:

  • Prifysgol De Cymru
  • Yr holl brifysgolion eraill yng Nghymru
  • SSCE Cymru
  • Llywodraeth Cymru
  • Cynghrair SCiP
  • Cyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i ymwneud â Chynghrair SCiP – Hwb Cymru, cysylltwch â SSCECymru@wlga.go

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.