Sir Fynwy
Mae 15 o aelodau yng nghlwb plant y Lluoedd Arfog ysgol gynradd wirfoddol a reolir gan yr Eglwys yng Nghymru Rhaglan ar draws pob grŵp blwyddyn. Ms Caroline Hammond sy’n cydlynu’r clwb, a oedd yn blentyn Lluoedd Arfog ei hun.
Mae’r clwb yn anelu at gyfarfod o leiaf unwaith yr wythnos, lle gall plant y Lluoedd Arfog fwynhau cymryd rhan mewn crefftau a gemau, gan ganolbwyntio ar rannu amser i siarad. Fe wnaethant ymuno yng Ngŵyl Lluoedd Dwyrain Cymru SSCE Cymru ym Marics Rhaglan yn 2023, dathlu Mis y Plentyn Milwrol bob mis Ebrill a chymryd amser i fyfyrio ar gyfer y Dydd y Cofio.
Eglurodd aelod o’r clwb ym mlwyddyn 5 sut mae derbyn cefnogaeth wythnosol wedi ei helpu i siarad os ydynt yn teimlo’n drist. Meddai, “Rwy'n hoffi gweithio gyda phlant eraill sy'n deall sut rwy'n teimlo.” “Mwynheais y Diwrnod Lluoedd Arfog yn arbennig – cefais lawer o hwyl!!'
Dywedodd rhiant sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ar hyn o bryd fod 'y sesiynau hyn yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr - rydym yn gobeithio eu bod yn gallu parhau.'
Mae Mrs Marles, y Pennaeth, yn rhagweithiol iawn yn ei chefnogaeth i'r clwb ac yn cydnabod yr effaith gadarnhaol y mae'n ei chael ar y grŵp hwn o ddisgyblion. Mae'r ysgol hon wedi derbyn statws efydd Ysgol Gyfeillgar y Lluoedd Arfog am y gefnogaeth wych sydd ganddynt i'w plant Lluoedd Arfog. Diolch i chi, dîm Rhaglan, edrychwn ymlaen at eich cefnogi wrth i chi weithio tuag at eich statws Arian.
Ym mis Mai 2025, arweiniodd Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir gan yr Eglwys yng Nghymru Rhaglan brosiect pwerus yn dathlu lleisiau plant y Lluoedd Arfog drwy rannu straeon a ffilmiau. Gan gydweithio gydag SSCE Cymru a Big Foot Education, rhannodd disgyblion ar draws sawl ysgol eu profiadau unigryw yn Military Me: Born to be Brave.
👉 Cliciwch yma i wylio’r ffilm a darllen y stori lawn
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.