Clybiau cynradd

Ysgol Gynradd Sylfaenol Pen-y-Bryn

Ysgol Gynradd Sylfaenol Pen-y-Bryn

Conwy

Mae Mrs Hayward wedi cydlynu’r Clwb ers mis Medi 2022 ac wedi gweithio’n galed i sicrhau fod yr ysgol yn cyflawni ei statws AUR fel Ysgol sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog.  Ym mis Ebrill 2024, fe wnaeth eu plant Lluoedd Arfog ein helpu i ffilmio Ebrill24 ffilmiau arfer da yn Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Pen y Bryn (Gogledd Cymru)

Mae plant y Lluoedd Arfog yn ysgol Pen y Bryn yn mwynhau mynychu eu clwb, lle gallant ymuno â gwahanol fathau o weithgareddau, gan alluogi pob plentyn i gael cyfle i wneud rhywbeth y maent yn ei fwynhau.  

Mae pob gweithgaredd yn canolbwyntio ar sicrhau fod aelodau’r clwb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a chreu gofod iddynt drafod neu rannu eu profiadau unigol.

Mae rhai rhieni wedi derbyn adborth cadarnhaol, gan ddweud bod plant yn dod adref gyda chrefftau o’u sesiynau sy’n rhoi cyfle iddynt drafod a gwrando ar deimladau eu plant.

Mae clwb plant y Lluoedd Arfog hefyd wedi cysylltu teuluoedd y Lluoedd Arfog o fewn cymuned yr ysgol.  Mae dau riant wedi dod yn ffrindiau y tu allan i’r ysgol drwy sylwi eu bod yn deuluoedd Lluoedd Arfog a bod eu sefyllfa’n debyg iawn.  

Ychydig o flynyddoedd yn ôl, cynhaliodd yr ysgol ŵyl Lluoedd Arfog fechan, a oedd yn hynod lwyddiannus.  Gwahoddwyd ysgolion lleol eraill yn y clwstwr i ddod at ei gilydd i ddathlu plant y Lluoedd Arfog. Roedd yn ddiwrnod hyfryd i’r plant a’r staff, a oedd yn teimlo eu bod wedi elwa’n fawr o fod yng nghwmni ei gilydd a chreu atgofion.  

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.