Clybiau cynradd

Ysgol Gynradd Llanfair

Ysgol Gynradd Llanfair

Bro Morgannwg

Mae clwb Llanfair yn ceisio cyfarfod bob wythnos, lle bo modd, gan ganolbwyntio ar weithgareddau lles, sesiynau crochenwaith, gemau a hwyl lego.  Mae Ms Jones a phlant y Lluoedd Arfog hefyd yn cynllunio sut byddant yn dathlu Mis y Plentyn Milwrol ym mis Ebrill, a sut hoffent arwain ar wasanaeth Coffa’r ysgolion.

Tachwedd24 Nodi Dydd y Cofio yn Ysgol Gynradd Llanfair

Dyma eiriau plentyn y Lluoedd Arfog ym mlwyddyn 3, ‘Mae’n wych - rydym yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog, ac os nad ydym ni’n teimlo’n dda, mae’n helpu i godi ein calonnau.’

Gydag aelod arall o’r clwb sydd ym mlwyddyn 6 yn ychwanegu, “mae’n llawer o hwyl, mwynheais y daith i farics y Maendy.  Rwy’n mwynhau cymryd rhan yn y gweithgareddau celf, mae’n gwneud i mi deimlo’n hapus.’

Dywedodd aelod o staff addysgu, ‘Rydym yn gwybod y bydd unrhyw un o’n plant Lluoedd Arfog sydd angen ymyrraeth yn cael eu gweld ac yn gwneud cynnydd.’

Dywedodd un o’r rhieni, ‘rwy’n gwybod am ysgolion eraill yn yr ardal sydd heb gyfleuster fel hwn, ac rwy’n ddiolchgar fod gan fy mhlentyn rywun i’w helpu yn yr ysgol, yn arbennig pan mae’r gŵr i ffwrdd.’

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.