Clybiau Uwchradd

Ysgol Glan Clwyd

Ysgol Glan Clwyd

Sir Ddinbych

Roedd Ms. Pritchard yn awyddus i sefydlu grŵp i gefnogi unrhyw blant/pobl ifanc sy’n gysylltiedig â’r Lluoedd Arfog ar ôl i’w mab ymuno â’r Llynges Frenhinol.  Sylweddolodd Ms. Pritchard ei bod yn debygol y bydd disgyblion yn yr ysgol yn mynd drwy brofiadau tebyg gyda’u teuluoedd. Gwnaeth ychydig o ymchwil a chysylltodd â'n tîm i weld pa gefnogaeth y gallem ei chynnig.  Mae’r clwb wedi mynd o nerth i nerth. Yma mae Ms Pritchard yn esbonio beth yw ei rôl fel Cefnogwr Plant Lluoedd Arfog yr Ysgol (SCSC), pryd maen nhw'n cwrdd a pha fath o weithgareddau mae'r clwb wedi cymryd rhan ynddynt...

“Rydym yn cyfarfod unwaith yr wythnos am 20 munud yn y cyfnod cofrestru.  Mae’r gweithgareddau yr ydym wedi’u cynnal hyd yma eleni (ers mis Medi 2023) yn cynnwys: creu a chyflwyno gwasanaeth, gwerthu pabïau ac eitemau eraill ar gyfer y Lleng Brydeinig Frenhinol er mwyn paratoi ar gyfer Dydd y Cofio a chyfarfod ar Ddydd y Cofio.  Rydym wedi paratoi ac anfon pecynnau gofal Nadolig at forwyr sy’n gwasanaethu.  Ymunom â gwasanaeth Nadolig ar-lein a gynhaliwyd gan Dîm Ymgysylltu Rhanbarthol y Fyddin Brydeinig Gymreig.  Cawsom ymweliadau y llynedd gan Forces Fitness, dathlu ‘mis y plentyn milwrol’, ac ymweliadau gan rai o'n teuluoedd sy'n gwasanaethu a gweithdy gan amgueddfa’r Llynges Frenhinol.  Cynhaliom stondin yn nosweithiau agored yr ysgol, ffilmio gydag SSCE Cymru, dathlu Dydd y Lluoedd Arfog gyda stondin fferins a chasglu arian at y Llynges Frenhinol.  Bu aelodau’r clwb yn brysur yn creu a llenwi hysbysfwrdd gyda manylion ein gweithgareddau a rhannu ein gweithgareddau ar Instagram ac ‘X’.  Rydym wedi nodi ein plant / pobl ifanc ar ein system siartiau dosbarth, fel y gallwn gasglu data a gweithio gydag SSCE Cymru i barhau i gefnogi'r disgyblion hyn.'

Blwyddyn brysur i aelodau clwb Ysgol Glan Clwyd - da iawn!

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.