Clybiau cynradd

Ysgol Y Ddraig

Ysgol Y Ddraig

Bro Morgannwg

Gofynnwyd i aelodau'r clwb gymryd rhan mewn prosiect diweddar gyda'r Awdurdod Lleol.  Helpodd plant y Lluoedd Arfog i lunio arolwg i gasglu barn plant eraill tebyg iddyn nhw ledled Bro Morgannwg.  Bydd y wybodaeth a ddarparwyd yn cefnogi’r ALl gyda thystiolaeth ar gyfer ceisiadau cyllid yn y dyfodol i gynnal prosiectau ar draws yr ardal hon yn ne Cymru.  Gweler isod rywfaint o luniau o’r digwyddiad lansio a gynhaliwyd yn yr ysgol lle gwahoddwyd rhieni i glywed am waith eu plant. Roedd yn brosiect hyfryd a oedd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd llais plant y Lluoedd Arfog.

Soniodd Mrs Bale am sesiwn gyntaf y clybiau yn 2021, pan wnaethon nhw gynnal cwrs lles 7 wythnos Little Troopers yn yr ysgol.

“Roedd y plant Lluoedd Arfog yn barod iawn i sgwrsio ac roedd llawer o wenu a chwerthin.  Roedd yn bleser gweld rhai ohonynt a oedd erioed wedi cymysgu o’r blaen yn siarad gyda’i gilydd ac yn gweithio fel tîm.  Nid oedd rhai o’r plant wedi sylwi fod gan y plant eraill rieni yn y fyddin.  Roedd yn gyfle iddynt ofyn cwestiynau gwahanol, fel ble ges di dy eni? Sawl ysgol wyt ti wedi ei mynychu? Sawl lle wyt ti wedi byw?”

Dyma’r adborth gan rai o’r plant Lluoedd Arfog ar y sesiynau:

BTB - “Bydd hyn yn helpu i ddatblygu perthnasoedd gyda phobl eraill sydd yn yr un sefyllfa”

AF - “Rydym bellach yn gallu siarad â’n gilydd os oes gennym unrhyw broblem”

LG - “A gawn ni wneud hyn bob wythnos plîs?”

IP - “Mae’n braf gwybod bod pobl eraill fel fi sy’n gorfod mynd drwy’r un pethau, fel gadael ffrindiau, ac rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd heddiw”

Os hoffech chi ddysgu mwy am yr elusen Little Troopers, a’r adnoddau y mae’r clwb hwn wedi’u defnyddio i ddechrau arni, dilynwch y ddolen hon:

 Little Troopers yn yr Ysgol - Little Troopers

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.