Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Mrs Bishop ac aelodau’r clwb wirioneddol yn mwynhau cyfarfod ac yn edrych ymlaen at y teithiau gyda’i gilydd, megis Gŵyl Lluoedd Arfog De Cymru SSCE Cymru a gynhaliwyd yn 2023 ym Marics Maindy, Caerdydd.
Maen nhw'n grŵp gweithgar iawn, sy'n ceisio dod at ei gilydd bob 3-4 wythnos. Maent wedi helpu SSCE Cymru i recordio ffilm arfer orau fer ac wedi ymuno â'n tîm yng Nghynhadledd Flynyddol Cynghrair SCiP Tachwedd 2024: Ysbrydoli Effaith, gan roi cipolwg gwerthfawr ar ffordd o fyw unigryw plant/pobl ifanc y Lluoedd Arfog yn eu rolau fel llysgenhadon.
Mae Mrs Bishop wedi derbyn adborth cadarnhaol gan rieni/gwarcheidwaid, sydd wedi nodi bod rhieni’n gwerthfawrogi’r gwaith y mae’r ysgol yn ei wneud ar gyfer y plant Lluoedd Arfog ac roedd pob aelod o staff yn canmol y gefnogaeth y mae’r clwb yn ei darparu i’r disgyblion hyn. Mae’r ysgol wedi llwyddo’n ddiweddar â’u cais i dderbyn cyllid drwy Gronfa SSCE Cymru, defnyddir y cyllid hwn i ariannu oriau staff i barhau â’r clwb a phrynu crysau chwys wedi’u dylunio gan yr aelodau. Bydd yr aelodau’n gwisgo’r crysau hyn pan fyddant yn cwrdd ar gyfer achlysuron arbennig, megis Mis y Plentyn Milwrol a Dydd y Cofio.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.