Clybiau Uwchradd

Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd

Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd

Sir Benfro

Cynhelir cyfarfodydd ar gyfer camau allweddol gwahanol o leiaf unwaith y mis er mwyn diweddaru disgyblion y Lluoedd Arfog ar brosiectau perthnasol a rhoi cyfleoedd iddynt gynllunio gweithgareddau i’r dyfodol. Mae’r cyfarfodydd hyn hefyd yn rhoi cyfle iddynt ddal i fyny ac ymgysylltu â’i gilydd.

Cysylltodd rhiant sy'n gwasanaethu, a fynychodd ddigwyddiad diweddar yn 14 Signal Regiment, â’r ysgol i fynegi eu diolchgarwch, gan ddweud “Mae’r gwahaniaeth yn fy mhlentyn mor amlwg ers i Glwb Bywyd y Lluoedd Arfog ddechrau. Mae wedi bod yn hyfryd gweld effaith gadarnhaol y digwyddiadau a’r gweithgareddau.”

Mae'r ysgol wedi ennill statws Aur fel Ysgol Gyfeillgar i'r Lluoedd Arfog ac yn dangos ei hymrwymiad i gefnogi plant y Lluoedd Arfog yn gyson.  Am enghreifftiau o rai o'r gweithgareddau a'r digwyddiadau y mae'r clwb hwn wedi bod ynghlwm â hwy, dilynwch y ddolen hon i’r cofnodion yng nghylchgrawn SSCE Cymru.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.