Sir Benfro
Gan fod gymaint o aelodau o’r clwb, mae grwpiau blwyddyn gwahanol yn ceisio cyfarfod yn wythnosol (ar brynhawn dydd Mawrth) gyda Mr Hill, sy’n hwyluso cyfle i’r plant eistedd fel grŵp a thrafod eu profiadau, gan ganolbwyntio ar weithgareddau lles, yn ogystal â dal i fyny. Mae plant y Lluoedd Arfog wrth eu boddau’n dod at ei gilydd ac mae staff yr ysgol yn gwerthfawrogi eu bod yn rhannu eu profiadau.
Llwyddodd yr ysgol yn ddiweddar â’u cais am gyllid drwy Gronfa SSCE Cymru i gynnal prosiect i wella eu cysylltiadau cryf â’r gymuned ymhellach.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.