Dathlodd Ysgol y Drindod (Caerffili) Fis y Plentyn Milwrol gydag amrywiaeth o weithgareddau. Gweithiodd Clarkson, plentyn y Lluoedd Arfog a oedd yn mynychu'r ysgol, gyda staff a'i deulu i greu fideo i helpu i godi ymwybyddiaeth i ddisgyblion a staff yr ysgol am fywydau plant milwrol.
Cyflwynodd Clarkson y fideo hwn i ddisgyblion eraill a oedd wrth eu bodd yn gweld yr hyn yr oedd wedi'i wneud. Daeth plant hefyd yn rhan o weithgareddau eraill gan gynnwys sesiwn Sensology, gan gynnwys archwilio sut mae parasiwtiau yn gweithio, gwaith gwyddoniaeth ar adeiladu pontydd a gweithgareddau celf.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.