Gweithgareddau Mis y Plentyn Milwrol 2026

Cerdded ein llwybr - Waldo Williams (Sir Benfro)

Cerdded ein llwybr - Waldo Williams (Sir Benfro)

Yn Ysgol Gynradd Waldo Williams dangosodd plant Sir Benfro gefnogaeth i Ddiwrnod a Mis y Plentyn Milwrol Porffor trwy wisgo porffor.  
Gwahoddwyd teuluoedd milwrol hefyd i ymuno â'r dathliadau gan fwynhau bore coffi a chreu arddangosfa "Walk Our Path", gan rannu straeon a phrofiadau o'r nifer o lefydd y mae eu teithiau wedi mynd â nhw.
Roedd yr ysgol hefyd yn gallu dathlu dod yn Ysgol Gyfeillgar i'r Lluoedd Arfog Arian yn ystod Mis y Plentyn Milwrol.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.