Diben Pecyn Gwaith Ysgolion SSCE Cymru yw darparu gwybodaeth am brofiadau plant y Lluoedd Arfog i ysgolion, awdurdodau lleol a gweithwyr addysg proffesiynol, a’u helpu i ddod i ddeall y gefnogaeth sydd ar gael i’w helpu i gefnogi plant y Lluoedd Arfog yn y ffordd orau bosib.
Cynhyrchwyd y Pecyn Gwaith gyda chefnogaeth rhwydwaith SSCE Cymru, a ddarparodd y cynnwys a’i wirio i sicrhau ei fod yn cynnig y wybodaeth fwyaf perthnasol a chywir.
Mae Pecyn Gwaith Ysgolion SSCE Cymru yn cynnwys yr adrannau canlynol:
Mae pob un o adrannau Pecyn Gwaith Ysgolion SSCE Cymru hefyd yn darparu gwybodaeth am amrywiol sefydliadau cymorth a dolenni perthnasol i adnoddau, ynghyd â rhestr o gamau gweithredu / gweithgareddau a awgrymir ar gyfer yr ysgol.
Dylid anfon unrhyw ymholiadau neu adborth am gynnwys y Pecyn Gwaith at SSCECymru@wlga.gov.uk.
Lansiwyd: Mawrth 2020
Mae adnoddau SSCE Cymru yn adnoddau y gellir eu lawrlwytho, eu haddasu a’u defnyddio gan ysgolion, rhieni/gofalwyr neu blant y Lluoedd Arfog. Gellir defnyddio’r adnoddau hyn i helpu goresgyn rhai o’r heriau a nodwyd drwy ymgysylltu â budd-ddeiliaid a gwaith ymchwil a gyflawnwyd gan SSCE Cymru.
Oes gennych chi syniad neu gais am adnodd a fyddai’n helpu eich ysgol chi i gefnogi plant y Lluoedd Arfog? Neu adborth am gynnwys Adnoddau SSCE Cymru?
Cysylltwch â SSCECymru@wlga.gov.uk
Mae tîm SSCE Cymru yn gyffrous i rannu'r adnodd hwyliog hwn, fel ffordd o gydnabod bod plant y Lluoedd Arfog yn wynebu profiadau cadarnhaol a heriol.
Gellir defnyddio'r gêm yn ystod gweithgareddau llais plant y Lluoedd Arfog neu fel adnodd DPP hwyliog i staff.
Mae'r dyfyniadau sydd wedi'u cynnwys ar y gêm wedi'u cymryd o rai o weithgareddau llais plant y Lluoedd Arfog yr ydym wedi'u cynnal dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae gennym hefyd fersiwn maint llawr mawr o'r gêm nadroedd ac ysgolion i fynd â nhw i ddigwyddiadau.
Diolch i un o'n Llysgenhadon Plant y Lluoedd Arfog, Darcy, a'i thad Cyn-filwr y Fyddin a ddefnyddiodd eu sgiliau creadigol i ddylunio'r nadroedd a'r ysgolion sydd wedi'u cynnwys ar y gêm.
Cysylltwch â SSCECymru@wlga.gov.uk i ofyn am gêm nadroedd ac ysgolion ar gyfer eich ysgol.
Adnoddau a fyddai o fudd i’w helpu i gefnogi plant y Lluoedd Arfog: Pecynnau gwaith/gwybodaeth yn ôl 58%, canllawiau cyllid yn ôl 58%, gwybodaeth am gymorth Iechyd Meddwl a Lles i blant y Lluoedd Arfog yn ôl 54%, rhestr wirio’r ysgol (yn awgrymu gweithgareddau) yn ôl 51%, canllaw arferion da yn ôl 50%, Cyflwyniad PowerPoint ar gyfer staff a disgyblion yr ysgol – ar y Lluoedd Arfog a phrofiadau plant y Lluoedd Arfog yn ôl 45%.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.