Roedd Ysgol Golwg Pen y Fan yn nodi Mis y Plentyn Milwrol gyda dathliad 'Porffor i Fyny' ysgol gyfan, gan ddod â phlant ynghyd o bob rhan o'i thri safle ysgol. Cydlynwyd y diwrnod gan Ms Hyett, Hyrwyddwr Ysgol Plant y Lluoedd Arfog yr ysgol, ac roedd yn enghraifft wych o ymrwymiad yr ysgol i gydnabod a dathlu ei phlant y Lluoedd.
Cynlluniwyd y prosiect i gryfhau cymorth teuluol, cymunedol a lles i blant y Lluoedd Arfog trwy adeiladu cysylltiadau cartref-ysgol, annog profiadau a rennir a hyrwyddo gwytnwch emosiynol. Roedd y gweithgareddau yn cynnwys disgo, gwaith celf ar thema porffor, hufen iâ, paent wyneb, tatŵs dros dro, swigod a digon o hwyl!
Daeth y dathliad â phlant y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd ynghyd yn yr ysgol ar gyfer lluniaeth, gweithgareddau ac arddangosfeydd o waith disgyblion. Roedd yn meithrin ymdeimlad cryf o falchder a pherthyn, yn helpu teuluoedd i gysylltu â staff a'i gilydd, ac yn annog mwy o ran ym mywyd yr ysgol.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.