Gweithgareddau Mis y Plentyn Milwrol 2026

Codi arian ar gyfer Help for Heroes yn Ysgol Pen y Bryn (Conwy)

Codi arian ar gyfer Help for Heroes yn Ysgol Pen y Bryn (Conwy)

Roedd plant Ysgol Pen y Bryn yng Nghonwy yn brysur iawn yn ystod mis Ebrill yn cynllunio a chwblhau nifer o weithgareddau codi arian i godi arian ar gyfer yr elusen Help for Heroes.
Daeth yr ysgol gyfan at ei gilydd ar gyfer diwrnod o weithgareddau a ddarparwyd gan Sgiliau Bywyd Addysg Cymeriad (CELS) ar ddiwedd y mis i ddathlu codi £1,108.44 i'r elusen!  
Llongyfarchiadau enfawr a diolch i bawb yn Ysgol Pen y Bryn. Am gyflawniad gwych!

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.