Gweithgareddau Mis y Plentyn Milwrol 2026

Mis y Plentyn Milwrol 2026

Mis y Plentyn Milwrol 2026

Yn ystod mis Ebrill, fe wnaethom ddathlu Mis y Plentyn Milwrol (MotMC), gan roi cyfle gwych i ni gydnabod plant a phobl ifanc y Lluoedd Arfog ledled Cymru. Mae wedi bod yn wych gweld ysgolion, awdurdodau lleol ac aelodau rhwydwaith SSCE Cymru ledled Cymru yn manteisio ar y cyfle hwn i ddathlu plant y Lluoedd Arfog, gan gymryd yr amser i fynegi eu gwerthfawrogiad am eu ffordd o fyw unigryw a diolch iddynt am eu aberth.

Roedd dathliadau Mis y Plentyn Milwrol eleni yn cynnwys gweithgareddau fel cynulliadau codi ymwybyddiaeth, gweithdai Barddoniaeth a Chelf Never Such Innocence, crefftau a gwaith celf ar thema dant y llew, gweithgareddau corfforol ar thema'r Lluoedd Arfog a llawer o borffor i ddathlu diwrnod 'Porffor i fyny'.

Am fis gwych oedd hi, hoffai SSCE Cymru ddiolch i'r holl ysgolion, awdurdodau lleol ac aelodau o'r rhwydwaith ledled Cymru a gymerodd ran drwy gynnal gwahanol weithgareddau a digwyddiadau i amlygu a dathlu eu plant y Lluoedd Arfog. 

Ewch i'n tudalen we Mis y Plentyn Milwrol i gael rhagor o luniau a manylion hyfryd am sut mae ysgolion ledled Cymru yn dathlu eu plant y Lluoedd Arfog eleni. Os hoffech i ni ychwanegu eich dathliadau ysgol at y dudalen hon, e-bostiwch eich lluniau a disgrifiad byr i SSCECymru@wlga.gov.uk.

 Edrychwn ymlaen at ddathlu Mis y Plentyn Milwrol 2027!

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.