Cafodd plant y Lluoedd Arfog yn Ysgol Gynradd Gatholig Mary Immaculate (Sir Benfro) fore gwych yn Hangar 5 yn dathlu Diwrnod 'Porffor i Fyny'. Cafodd y plant amser anhygoel yn bownsio, ac yna pizza blasus haeddiannol! Roedd yn wych gweld pawb yn gwisgo eu crysau-T 'Purple Up for Military Children', gan ddangos eu cefnogaeth a'u hymdeimlad o berthyn. Diolch yn fawr iawn i Gyfeillion yr Ysgol am ariannu'r bws, a diolch arbennig i Mrs Field a Mrs Thomas am fynd gyda'r plant.
Roedd y Milwyr Bach yn brysur eto yr wythnos ganlynol yn mwynhau parti te porffor hudolus i nodi wythnos olaf Mis y Fyddin. Diolch yn fawr iawn i SSCE Cymru a'r Gwasanaeth Lles Addysg am eu rhodd garedig o'r bocs dathlu, gwnaeth y diwrnod yn arbennig iawn i'n plant gwych.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.