6a. TEMPLED: Pecyn croeso i’r ysgol ar gyfer plant y Lluoedd Arfog
Mae’r pecyn croeso i’r ysgol ar gyfer plant y Lluoedd Arfog yn dempled i ysgolion ei ddefnyddio i roi gwybodaeth allweddol i fyfyrwyr newydd am yr ysgol cyn iddyn nhw gychwyn yno. Mae cynnig cyfleoedd iddyn nhw ymgyfarwyddo â’u hysgol newydd cyn cychwyn yno yn allweddol i gefnogi’r broses bontio.
Sut i ddefnyddio’r adnodd hwn:
Gallwch ychwanegu a dileu sleidiau a newid penawdau’r adrannau o fewn y templed hwn i’w addasu ar gyfer eich ysgol chi. Dyluniwyd yr adnodd i gefnogi proses bontio plant y Lluoedd Arfog i’w hysgol newydd, a’u helpu i ymgyfarwyddo â’r ysgol, y gweithgareddau dydd i ddydd, a’r aelodau staff allweddol.
6b. TEMPLED: Pecyn croeso i’r ysgol ar gyfer rhieni/gofalwyr
Mae’r pecyn croeso i’r ysgol ar gyfer rhieni/gofalwyr yn dempled i ysgolion ei ddefnyddio i roi gwybodaeth allweddol i rieni/gofalwyr am yr ysgol cyn i’r plentyn gychwyn yno. Pan fydd rhieni’n teimlo’n ddiogel ac yn sicr am yr ysgol y byddan nhw anfon eu plentyn iddi, fe allan nhw helpu’r plentyn i deimlo felly hefyd.
Sut i ddefnyddio’r adnodd hwn:
Gallwch ychwanegu a dileu sleidiau a newid penawdau’r adrannau o fewn y templed hwn i’w addasu ar gyfer eich ysgol chi. Yn hytrach nag ail-greu’r wybodaeth sy’n debygol o fod ar wefan yr ysgol, y bwriad yw darparu dolenni neu arweiniad cryno i’r wybodaeth hon.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.