Digwyddiadau i ddod

Digwyddiadau rhwydwaith sydd ar ddod

Gweler y digwyddiadau canlynol sy'n cael eu trefnu a'u rhedeg gan aelodau o rwydwaith SSCE Cymru.

Sioe Addysg Genedlaethol 2026

02/10/2026
Bydd Sioe Addysg Genedlaethol 2026 yn ôl yn Arena Utilita, Caerdydd ddydd Gwener 2 Hydref 2026.

Taith Wrando Canolfan Effaith Cynghrair SCiP ABERHONDDU

15/10/2026
Dros y misoedd nesaf, mae'r Gynghrair SCiP yn cynnal dros 30 o ddigwyddiadau ledled y DU i gynnal grwpiau trafod ar bwnc mobileiddio tystiolaeth.

Cynhadledd Flynyddol Cynghrair SCiP 2026

18/11/2026
Mae cefnogi plant y Lluoedd Arfog bob amser wedi bod yn ymdrech a rennir. Wrth i'r Gynghrair SCiP ddathlu ei phen-blwydd yn 10 oed, mae'r gynhadledd eleni yn dwyn ynghyd y bobl, y partneriaethau a'r syniadau sydd wedi siapio'r degawd diwethaf – ac yn archwilio sut y gallwn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw ar gyfer y dyfodol.

Cofio

11/11/2026
Diwrnod y Cofio neu Ddiwrnod y Cadoediad yw'r 11eg o Dachwedd. Fe'i nodir bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig gyda Dau Funud o Dawelwch am 11am ar yr 11eg diwrnod o'r 11eg mis.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.