Digwyddiadau rhwydwaith sydd ar ddod

Cofio

Cofio

11/11/2026

Diwrnod y Cofio neu Ddiwrnod y Cadoediad yw'r 11eg o Dachwedd. Fe'i nodir bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig gyda Dau Funud o Dawelwch am 11am ar yr 11eg diwrnod o'r 11eg mis.

Yn ogystal â'r tawelwch, mae ysgolion yn coffáu Cofio mewn sawl ffordd wahanol. Gweler ein tudalen we Cofio am ystod o adnoddau ac enghreifftiau o sut mae ysgolion wedi coffáu o'r blaen.  

Eleni bydd Sul y Cofio yn disgyn ar ddydd Sul 8 Tachwedd. Mae Sul y Cofio yn cael ei nodi bob blwyddyn. Mae'n gyfle cenedlaethol i gofio gwasanaeth ac aberth pawb sydd wedi amddiffyn ein rhyddid ac wedi amddiffyn ein ffordd o fyw.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.