Jack, Merci, Ava & Joshua
Plant y Lluoedd Arfog o ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot
Sêr mis Tachwedd: Jack a Merci (Ysgol Gyfun Cefn Saeson), Ava (Ysgol Gymunedol Llangatwg) a Joshua (Ysgol Gyfun Dŵr y Felin).
Mae SSCE Cymru yn cydnabod y pedwar disgybl hwn yng Nghastell-nedd Port Talbot am wirfoddoli i rannu eu profiadau fel plant y Lluoedd Arfog a’r hyn y mae Cofio yn ei olygu iddynt, gan gynrychioli eu hysgolion a'u hawdurdod lleol.
Ysgol Gyfun Cefn Saeson oedd yn cynnal y recordiad, ac ymunodd Pencampwr y Lluoedd Arfog Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Tim Bowen.
Ymddangosodd eu recordiad yng Nghyngerdd Cofio'r Maer yng Nghastell-nedd ddydd Gwener 23 Hydref. Gweler y recordiad ar wefan SSCE Cymru yma.
Yn foment falch i Deulu Milwrol Castell-nedd Port Talbot, mae hyn yn dangos ymrwymiad parhaus yr awdurdod lleol i sicrhau bod "plant a phobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu cydnabod, eu hyrwyddo a'u cefnogi i ffynnu."
Diolch i bawb sy'n cymryd rhan, yn enwedig Jack, Merci, Ava a Joshua. Mae eu myfyrdodau yn cysylltu Cofio â theuluoedd y Lluoedd Arfog heddiw, gan eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi wrth ddangos i genedlaethau iau pam rydyn ni'n cofio ac yn cario'r etifeddiaeth hon ymlaen.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.