Lansiodd Gwasanaeth Dysgwyr Agored i Niwed Castell-nedd Port Talbot (CNPT), mewn partneriaeth ag SSCE Cymru, Addewid Disgyblion y Lluoedd Arfog (SPP) ym mis Gorffennaf 2026. Ac am lansiad ydoedd, fel rhan o Barti Gardd y Lluoedd Arfog a gynhaliwyd yn Ysgol Gynradd Baglan, roedd y digwyddiad yn adlewyrchu popeth wrth wraidd yr Addewid, pwysigrwydd cymuned a theulu y Lluoedd Arfog.
Yn ystod y prosiect, daeth dros 50 o blant y Lluoedd Arfog o 11 ysgol ar draws CNPT at ei gilydd i ddechrau ym mis Mawrth ar gyfer digwyddiad Addewid Disgybl Gwasanaeth CNPT a gynhaliwyd yn Ysgol Gyfun Cefn Saeson.
Yn ystod y digwyddiad llais disgyblion hwn, roedd plant y Lluoedd Arfog yn gallu rhannu eu profiadau o fod yn blentyn y Lluoedd gan helpu i greu darlun clir o'r gefnogaeth sydd ar waith ar hyn o bryd ar draws ysgolion a'r awdurdod lleol, beth sy'n gweithio'n dda, a'r hyn yr hoffent weld mwy ohono yn y dyfodol.
Roedd y digwyddiad yn adlewyrchiad gwirioneddol o'r gefnogaeth anhygoel sydd gan CNPT eisoes ar waith i blant y Lluoedd Arfog. Trwy gydol y dydd roedd yn amlwg bod yr ymdeimlad o gymuned a pherthyn ymhlith y plant hyn yn allweddol a pha mor bwysig yw hi bod digwyddiadau fel hyn i ddod â nhw i gyd at ei gilydd.
Trwy'r prosiect hwn mae CNPT wedi dangos ei ymrwymiad i blant y Lluoedd Arfog, cynhwysiant, llais disgyblion, cymuned a Chyfamod y Lluoedd Arfog.
Rhannodd Julie Stapleton – Rheolwr Gwasanaeth Dysgwyr sy'n Agored i Niwed yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot;
"Trwy ymhelaethu ar eu Llais Disgyblion, anogwyd Plant y Lluoedd Arfog i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau a theimlo eu bod yn cael eu clywed, i adeiladu cymuned trwy gysylltu â chyfoedion sy'n rhannu cefndiroedd a phrofiadau tebyg ac i helpu staff ac ysgolion i ddeall yr heriau unigryw y maent yn eu hwynebu a sut maen nhw'n teimlo y gall ysgolion eu cefnogi orau."
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.