Pecyn Cymorth Ysgol ac Offer

5. RHESTRAU GWIRIO: Symud i mewn neu allan o’r ysgol

5. RHESTRAU GWIRIO: Symud i mewn neu allan o’r ysgol

Gall plant y lluoedd arfog orfod symud a newid ysgol sawl tro yn ystod eu cyfnod mewn addysg. Mae sicrhau proses bontio ddidrafferth yn hanfodol i’w llwyddiant.

Sut i ddefnyddio’r adnodd hwn:

Mae’r adnodd hwn yn darparu dwy restr wirio i helpu ysgolion hwyluso proses bontio gadarnhaol ar gyfer plant y lluoedd arfog sy’n symud i mewn neu allan o’r ysgol. Mae’r rhestrau gwirio’n cynnwys y gwahanol gamau pontio ac yn cyfeirio at Adnoddau eraill perthnasol gan SSCE Cymru.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.