Mae ysgolion yn darparu cefnogaeth wych i blant y Lluoedd Arfog ar hyd a lled Cymru. Gwnewch yn siŵr bod cydweithwyr, rhieni, plant ac ymwelwyr â’ch ysgol yn cael gwybod am y gefnogaeth rydych chi’n ei chynnig i blant y Lluoedd Arfog.
Sut i ddefnyddio’r adnodd hwn:
Cynhyrchwyd yr adnodd hwn i gynnig syniadau am sut y gallwch chi hysbysebu’r ddarpariaeth rydych chi’n ei chynnig i blant y Lluoedd Arfog yn eich ysgol.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.