Pecyn Cymorth Ysgol ac Offer

7. TEMPLED: Trosglwyddo gwybodaeth am blant y Lluoedd Arfog i’r ysgol

7. TEMPLED: Trosglwyddo gwybodaeth am blant y Lluoedd Arfog i’r ysgol

Gall plant y lluoedd arfog orfod symud a newid ysgol sawl tro yn ystod eu cyfnod mewn addysg. Mae’n hanfodol bod y wybodaeth berthnasol yn symud gyda nhw er mwyn sicrhau’r broses bontio fwyaf didrafferth ac osgoi bylchau yn y gefnogaeth.

Sut i ddefnyddio’r adnodd hwn:

Fel arfer, mae gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo o un ysgol i’r llall wrth bontio. Dyluniwyd yr adnodd hwn i gefnogi’r broses bontio drwy gynnig gwybodaeth gefndir fwy manwl am sut i gefnogi’r plentyn orau, trosolwg o’i addysg, unrhyw Anghenion Dysgu Ychwanegol, a’i hanes addysgol. Dylai hwn gael ei gwblhau gan ysgol gyfredol plentyn y Lluoedd Arfog cyn iddo gychwyn pontio.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.