Awdurdod Lleol yn Lansio Addewid i Ddisgyblion y Lluoedd Arfog

Addewid Disgybl y Lluoedd Arfog Sir Benfro

Addewid Disgybl y Lluoedd Arfog Sir Benfro

Mae Gwasanaeth Lles Addysg Cyngor Sir Benfro, mewn partneriaeth â SSCE Cymru, wedi lansio’r Addewid i Ddisgyblion y Lluoedd Arfog cyntaf yng Nghymru. Yn lleol, caiff ei adnabod fel yr Addewid i Ddisgyblion Milwrol, gan adlewyrchu ffafriaeth plant milwrol Sir Benfro. Gwelodd y prosiect bron i 70 o blant yn dod ynghyd i helpu datblygu’r addewid, gan roi llais uniongyrchol iddynt wrth lunio sut mae ysgolion a’r awdurdod lleol yn eu cefnogi.

Yn ystod y digwyddiad, cafodd y plant gyfle i fyfyrio ar effaith fod yn blentyn y Lluoedd Arfog, rhannu eu profiadau a’u safbwyntiau, ystyried sut mae eu hysgol yn eu cefnogi a’u dathlu, a nodi beth arall ellir ei wneud i wella’r ddarpariaeth ar gyfer plant y Lluoedd Arfog.   Fe wnaethant fwynhau ystod o dasgau creadigol a myfyriol a arweiniodd at greu addewidion ysgol e.e. “Rydym ni’n addo edrych ar ôl ein gilydd tra bod ein rhieni yn edrych ar ôl ein gwlad.”

Mae’r digwyddiad hwn, sy’n dod ag ysgolion, teuluoedd a phartneriaid cymunedol ynghyd, wedi cryfhau’r ddealltwriaeth o’r heriau unigryw a gaiff eu hwynebu gan ddisgyblion milwrol, wrth hyrwyddo cysondeb, perthyn, a lles emosiynol mewn addysg er mwyn sicrhau fod pob plentyn milwrol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi i gyflawni eu llawn botensial.

Drwy’r prosiect hwn, mae’r awdurdod lleol yn dangos ei ymrwymiad i gynhwysiant, tegwch, a lles pob plentyn, gan gydnabod bod cefnogi teuluoedd y Lluoedd Arfog yn cryfhau’r gymuned gyfan.

Dywedodd Kelly Hamid – Rheolwr y Gwasanaeth Lles Addysg yng Nghyngor Sir Benfro;

“Mae datblygu’r Addewid i Ddisgyblion y Lluoedd Arfog yn ymwneud â chydnabod a dathlu profiadau unigryw plant y Lluoedd Arfog, gan sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu cefnogi a’u gwerthfawrogi’n llawn o fewn ein hysgolion a’n cymuned. I ni fel awdurdod lleol, nid dim ond addewid yw hwn; mae’n ymrwymiad i wrando, dysgu a gweithio gyda’n gilydd fel y gall pob disgybl o deulu yn y lluoedd arfog ffynnu, ni waeth ble mae eu taith yn mynd â nhw. Hoffwn ddiolch i’r plant, yr ysgolion, y partneriaid a’r swyddogion a roddodd eu hamser, eu llais a’u brwdfrydedd i’r prosiect hwn i helpu i wneud y lansiad yn ddigwyddiad ystyrlon a chydweithredol.”

Lawrlwythwch Addewid i Ddisgyblion y Lluoedd Arfog Sir Benfro 

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.