Gweithgareddau Mis y Plentyn Milwrol 2024

Ymweliad gan riant milwrol yn Ysgol Cefn Meiriadog

Ymweliad gan riant milwrol yn Ysgol Cefn Meiriadog

Ysgol Cefn Meiriadog (Denbighshire)

Mae Ysgol Cefn Meiriadog yn ysgol yn Sir Ddinbych, Gogledd Cymru, gydag un plentyn y Lluoedd Arfog. Gweler isod ddyfyniad gan y Pennaeth, Laura Martin, a rhai lluniau hyfryd o'r hyn y gwnaethon nhw ei wneud ym mis Ebrill i ddathlu Mis y Plentyn Milwrol!
 "Fe wnaethon ni ddathlu Mis y plentyn Milwrol trwy gynnal cynulliad i rannu llawer o wybodaeth gyda'r ysgol gyfan. Yn ystod y cynulliad hwn rhannodd ein plentyn y Lluoedd Arfog ei brofiadau, ac fe wnaethom wylio fideos o wefan SSCE. Yna cawsom ddiwrnod 'gwisgo porffor' a defnyddio'r diwrnod i ddarganfod mwy am y fyddin a phrofiadau plant milwrol. Fe wnaethom groesawu ein rhiant milwrol i ddosbarthiadau i rannu ei brofiadau ac i ofyn cwestiynau iddo am ei waith.
Cynhyrchodd y dosbarthiadau ychydig o waith celf dant y llew a phosteri yn diolch i'r fyddin am yr aberth maen nhw'n ei wneud. Fe wnaethon ni orffen y mis gydag ymweliad arall gan ein rhiant milwrol a ddaeth ag amrywiaeth o offer i'r plant roi cynnig arnynt, fe wnaethon nhw flasu rhai bwydydd wedi'u cynhesu ar y stôf ac yn mwynhau gofyn mwy o gwestiynau."

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.