Cafodd Ysgol Gynradd Baglan yng Nghastell-nedd Port Talbot fis prysur yn dathlu Mis y Plentyn Milwrol gyda'u Milwyr Bach a chymuned ehangach yr ysgol!
Yn Ysgol Gynradd Baglan, creodd pob dosbarth lun dant y llew o adnoddau Little Troopers ar-lein a thrafod pwysigrwydd Mis y plentyn Milwrol a sut mae teuluoedd y Lluoedd Arfog yn cael eu cefnogi yn yr ysgol.
Ar gyfer 'Diwrnod Porffor i fyny!', roedd yr ysgol gyfan yn gwisgo porffor, a chodwyd dros £100 a'i roi i'r elusen leol 'Bulldogs Boxing and Community Activities'. Mae'r cyn-filwyr yn Bulldogs wedi awgrymu defnyddio'r arian i brynu planhigion a blodau. Mae Little Troopers wedi cael eu gwahodd i'w helpu gyda'r plannu. Daeth y Gwasanaeth Tân hefyd i mewn a gweithio gyda'r Little Troopers i greu darlun archarwr ar raddfa fawr. Cafodd y Little Troopers gymaint o hwyl!
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.