Cafodd Ysgol Penygloddfa, ysgol gynradd ym Mhowys gyda 4 o blant y Lluoedd Arfog, fis prysur yn llawn dathliadau Mis y Plentyn Milwrol yn ystod mis Ebrill. Cymerodd plant y Lluoedd Arfog a'u cyfoedion ran mewn cynnal gwerthiannau pobi elusennol, gweithgareddau chwaraeon fel zumba a phêl-fasged cadair olwyn, sesiynau celf a chrefft a oedd yn cynnwys creu cerfluniau celf dant y Llew a baner ar gyfer Diwrnod Porffor i enwi ond ychydig!
"Roedd y bwrlwm o amgylch ein hysgol ar gyfer mis Ebrill yn wirioneddol galonogol. Bydd y hapusrwydd ar wynebau plant y Lluoedd Arfog a'u hwb yn eu hyder yn rhywbeth y byddant yn ei gofio am weddill eu bywydau" - ALNCo
"Dyma'r gorau erioed!" - Plentyn y Lluoedd Arfog"
"Mae wedi bod yn fraint i'r plant fod yn rhan o'r digwyddiadau hyn a chodi ymwybyddiaeth o blant y Lluoedd Arfog yn eich ysgol" - Rhiant sy'n gwasanaethu
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.