Trefnodd ysgolion ac Awdurdodau Lleol ledled Cymru sawl gweithgaredd yn ystod mis Ebrill i ddathlu eu plant y Lluoedd Arfog a'u cymeradwyo am yr aberth dyddiol y maent yn ei wneud a'r heriau y maent yn eu goresgyn.
Roedd y gweithgareddau yn cynnwys digwyddiadau hwyliog Gŵyl y Lluoedd a gyflwynwyd mewn cydweithrediad â Forces Fitness, bod yn greadigol gyda sesiynau celf a chrefft, sesiynau rygbi cadair olwyn URC, cynulliadau ysgolion, gwerthiant pobi i godi arian ar gyfer Elusennau'r Lluoedd Arfog a llawer o drafodaethau ynghylch beth mae'n ei olygu a sut mae'n teimlo i fod yn blentyn y Lluoedd Arfog.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.