Rhiannon Seymour
Gwasanaethau Treftadaeth ac Allgymorth Rhondda Cynon Taf
Hoffai tîm SSCE Cymru ddiolch o galon i Rhiannon Seymour, ‘Heritage Monuments & Historic Memorials Officer’ ar gyfer Gwasanaethau Treftadaeth ac Allgymorth Rhondda Cynon Taf, fel ein Seren y Mis ar gyfer Mehefin 2026.
Ers cysylltu â SSCE Cymru am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2025 i archwilio cyfleoedd ariannu, mae Rhiannon wedi dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad gwirioneddol i greu profiadau ystyrlon i blant a phobl ifanc sy'n gysylltiedig â'r Lluoedd Arfog. Ar 23 Ebrill 2026, daeth yr ymrwymiad hwnnw'n fyw ym Mharc Treftadaeth RhCT, lle daeth 72 o blant o wyth ysgol at ei gilydd ar gyfer dathliad gwych Mis y Plentyn Milwrol. Wedi'i gydlynu gan Rhiannon a'i thîm, gyda chefnogaeth SSCE Cymru, Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol y Fyddin ac AFLO Jamie Ireland, roedd y diwrnod yn llawn gweithdai treftadaeth, gweithgareddau creadigol, cerddoriaeth gan Fand Milwrol Brenhinol Cymru, a sesiwn ysgrifennu caneuon ysbrydoledig gydag Otto Aday, o Never Such Innocence. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i blant gysylltu, mynegi eu hunain a theimlo'n falch o bwy ydyn nhw.
Diolch, Rhiannon, am eich gweledigaeth, eich cynhesrwydd a'ch ymroddiad i blant y Lluoedd Arfog yn Rhondda Cynon Taf.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.