Claire Pugh
Ysgol C.i.W Priory
Rydym yn falch o ddathlu Claire Pugh, Pennaeth Ysgol Gynradd C.i.W y Priordy, fel ein Seren y Mis SSCE Cymru. Mae ymroddiad Claire i blant y Lluoedd Arfog yn wirioneddol ysbrydoledig, gan sicrhau bod eu lleisiau, eu straeon a'u profiadau nid yn unig yn cael eu clywed, ond yn cael eu gwerthfawrogi wrth wraidd bywyd ysgol.
Gyda chefnogaeth Liz Davies ac Amanda Hyatt, mae Claire wedi creu cyfleoedd pwerus i ddisgyblion deimlo'n weledig, yn gysylltiedig ac yn falch. O ddathlu Mis y Plentyn Milwrol a chroesawu Tîm Ymgysylltu y Fyddin i'r ysgol i gefnogi tri dysgwr cysylltiedig â'r Lluoedd Arfog i gynrychioli'r Priordy yn ystod ymweliad â'r Senedd fis Tachwedd diwethaf, mae ei harweinyddiaeth yn helpu plant i gydnabod cryfder a gwerth eu profiadau eu hunain.
Diolch o galon i Claire a chymuned gyfan Ysgol Gynradd C.i.W am fod yn enghraifft mor ddisglair o Ysgol sy’n Cefnogi'r Lluoedd Arfog. Mae eich tosturi, eich ymrwymiad a'ch parodrwydd i rannu arfer da yn helpu i ysbrydoli newid parhaol i blant y Lluoedd Arfog yn Aberhonddu a ledled Cymru. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda chi yn y flwyddyn academaidd nesaf.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.