Pecyn Cymorth Ysgol ac Offer

11. TEMPLED: Cyflwyniad am brofiad plant y Lluoedd Arfog

11. TEMPLED: Cyflwyniad am brofiad plant y Lluoedd Arfog

Mae dod i ddeall effaith ffordd o fyw’r Lluoedd Arfog ar blant y Lluoedd Arfog yn galluogi lleoliadau addysg i ddod i ddeall a chefnogi eu hanghenion yn well.

Sut i ddefnyddio’r adnodd hwn:

Mae hwn yn dempled aml-swyddogaethol y gall aelodau staff neu blant y Lluoedd Arfog ei ddefnyddio i gynllunio, addasu a darparu hyfforddiant staff neu wasanaeth am blant y Lluoedd Arfog a’u profiadau yn eich ysgol chi. Fe allech chi ddatblygu’r adnodd hwn gyda phlant y Lluoedd Arfog eich ysgol chi yn ystod Mis y Plentyn Milwrol.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.