Mae gwefan YoungMinds yn darparu ystod eang o wybodaeth a chyngor wedi’i dylunio i helpu gwella iechyd meddwl pobl ifanc hyd at 25 oed. Mae gennym wybodaeth ar gyfer pobl ifanc a’u rheini neu ofalwyr ar gyflyrau iechyd meddwl, teimladau, meddyginiaeth a sefyllfaoedd bywyd gwahanol, yn ogystal â chyrsiau hyfforddi ac adnoddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc.
Rydym hefyd yn cynnig llinell gymorth a gwasanaeth gwe-sgwrs ar gyfer rhieni a gofalwyr, sy’n darparu cyngor a chefnogaeth ar gyfer gofalu am iechyd meddwl eu plant. Ffoniwch Linell Gymorth i Rieni ar 0808 802 5544, Dydd Llun - Dydd Gwener 9:30am - 4:00pm, i gael cyngor manwl, cefnogaeth emosiynol ac atgyfeiriad ar gyfer plentyn neu unigolyn ifanc hyd at 25 oed.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.