Cyllid

Schools & LAs

Cyllid

Mae ysgolion ledled Cymru’n rhagweithiol iawn ac yn gwneud gwaith gwych i sicrhau nad yw plant y Lluoedd Arfog dan anfantais o ganlyniad i effaith bod yn rhan o deulu y Lluoedd Arfog.

Weithiau mae angen i ysgolion ac awdurdodau lleol gael at gyllid ychwanegol er mwyn parhau i gefnogi plant y Lluoedd Arfog yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae SSCE Cymru yn cydnabod nad yw bob amser yn hawdd darganfod pa gyllid sydd ar gael, pa grantiau sydd fwyaf perthnasol i brosiect a beth yw’r ffordd orau o fynd ati i lenwi’r ffurflenni cais.

Am y rhesymau hyn rydym yn hapus i gynnig cymorth ac arweiniad gyda chyfleoedd cyllido.

Arolwg ysgolion SSCE Cymru (2019)

Yr heriau mwyaf arwyddocaol maent yn eu hwynebu wrth gefnogi plant y Lluoedd Arfog: nododd 25% o ysgolion cynradd mai Cyllid ydoedd.

Cyngor SSCE Cymru ar gyllid

Mae'r dogfennau hyn yn darparu cyngor gan dîm SSCE Cymru ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol, i'w cynorthwyo wrth wneud cais am gyllid i gefnogi plant y Lluoedd Arfog / cymuned leol y Lluoedd Arfog.

Mae'r cyngor a ddarperir yn gyffredinol ac nid yw'n benodol i unrhyw ffrwd ariannu benodol.

Mae'r rhestr wirio yn cynnwys camau gweithredu a awgrymir i helpu wrth baratoi a chwblhau cais am gyllid.

Mae'r ddogfen syniadau ac awgrymiadau yn cynnwys enghreifftiau o weithgareddau y gallai ymgeiswyr eu hymgorffori fel rhan o brosiectau a ariennir i gefnogi plant y Lluoedd Arfog.

Cronfa Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog Mewn Addysg yng Nghymru (2025/26)

Caiff Cronfa Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog Mewn Addysg yng Nghymru (SCCE-WF) ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu gan SSCE Cymru a gynhelir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Gall ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru wneud cais am £1,000 neu £3,000 i gyflawni prosiect ym mlwyddyn academaidd 2025/26 i gefnogi plant y Lluoedd Arfog.
Prosiectau £1,000 – ar agor i’r holl ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru.
Prosiectau £3,000 – ar agor i ysgolion sydd wedi ennill statws Efydd Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru a’r holl awdurdodau lleol.

Bydd ceisiadau a gyflwynir yn cael eu hadolygu o fewn 14 diwrnod i'r dyddiadau cau canlynol.

Cyfnodau adolygu'r panel:
- 26 Medi 2025
- 7 Tachwedd 2025
- 19 Rhagfyr 2025
- 30 Ionawr 2026
- 13 Mawrth 2026

Efallai y bydd rowndiau pellach yn agor os bydd arian ar gael.

Cefnogaeth rheoli achosion SSCE Cymru

Beth yw diben y cyllid?

Cefnogi lleoliadau addysg i ddarparu ymyriadau ar gyfer plentyn unigol y Lluoedd Arfog neu nifer fechan o blant y Lluoedd Arfog (4-16 oed) ag anghenion penodol sy’n gysylltiedig ag effaith ffordd o fyw yn y Lluoedd Arfog.

Pwy sy'n gymwys?

Ysgolion a lleoliadau addysg yng Nghymru.

Beth yw’r blaenoriaethau?

Ymyriadau sy’n cefnogi plant y lluoedd arfog i oresgyn rhwystrau sy’n gysylltiedig â:

  • Lles cymdeithasol / emosiynol
  • Cyrhaeddiad academaidd

Dyddiad cau ceisiadau: Ar gael trwy gydol y flwyddyn.

 

Cyllid grant

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a chyngor ar ymgeisio am y ffrydiau cyllido hyn yn nogfen gynghori SSCE Cymru ar gyllid.

 

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.