Ysgolion & Awdurdodau Lleol

Cyfamod y Lluoedd Arfog

Cyfamod y Lluoedd Arfog

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl bod y rhai sy’n gwasanaethu, neu wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg.

Ei ddwy egwyddor yw, gan gydnabod rhwymedigaeth unigryw y Lluoedd Arfog, a’r aberthau a wneir ganddynt:

  • Ni ddylai’r rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, boed yn rheolaidd neu wrth gefn, y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol, a’u teuluoedd, wynebu unrhyw anfantais o gymharu â dinasyddion eraill o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus a masnachol
  • Mae ystyriaeth arbennig yn briodol mewn rhai achosion, yn arbennig i’r sawl sydd wedi rhoi’r mwyaf fel y sawl a anafwyd a’r sawl mewn profedigaeth. 

Mae mwy o wybodaeth am Gyfamod y Lluoedd Arfog ar gael yma.

Mae pecyn gwaith Dyletswydd Gyfreithiol y Cyfamod hefyd yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau fel Cwestiynau Cyffredin, canllawiau statudol ac arweiniad ar gyfer sefydliadau a’r Lluoedd Arfog.

Dyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog

Daeth Dyletswydd y Cyfamod i rym ar 22 Tachwedd 2022.

O dan Ddyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar rai cyrff cyhoeddus i roi’r sylw dyledus i egwyddorion y Cyfamod wrth arfer rhai swyddogaethau.

Mae cyrff cyhoeddus sy’n dod o fewn cwmpas y Ddyletswydd yn cynnwys awdurdodau lleol a’r ysgolion a ariennir gan y wlad sy’n rhan ohonynt.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Hyfforddiant a chymorth

Mae rhaglen o fodiwlau hyfforddiant e-ddysgu wedi’i chynllunio gan Gyngor Swydd Warwick i godi ymwybyddiaeth o gymuned y Lluoedd Arfog a Chyfamod y Lluoedd Arfog. 

Swyddogion Cyswllt Cyfamod y Lluoedd Arfog (AFLO)

Mae Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yn helpu i weithredu’r ymrwymiadau a wneir yn y Cyfamod – darparu cefnogaeth i’n cymuned Lluoedd Arfog, gan gynnwys rhai sydd wedi gwasanaethu’n Rheolaidd, Wrth Gefn, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Mae manylion cyswllt ar gyfer AFLO ar gael yma.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.